Newyddion S4C

Y Delynores Frenhinol Alis Huws yn arwyddo cytundeb record

03/05/2024
Alis Huws

Mae'r Delynores Frenhinol Swyddogol, Alis Huws, wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni cerddoriaeth glasurol.

Fe gyhoeddodd Decca Classics ddydd Gwener eu bod wedi arwyddo'r delynores o Sir Drefaldwyn, gyda'i EP cyntaf yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach eleni. 

Mae Huws hefyd wedi rhyddhau ei threfniant ei hun o’i hoff gân werin Gymreig, Tra Bo Dau, ar gyfer telyn unigol.

Fe astudiodd Huws yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle cafodd ei phenodi'n Delynores Swyddogol i Dywysog Cymru yn 2019.

Daeth Huws yn Delynores Frenhinol Swyddogol ar ôl i'r Tywysog Charles gael ei goroni'n Frenin Charles yn 2023.

Fe berfformiodd yn seremoni'r coroni yn Abaty Westminster, gan chwarae trefniant o Tros Y Garreg gan Syr Karl Jenkins ar delyn aur.

Fe gafodd Huws ei magu ar fferm yn Foel ger Llanfair Caereinion ym Mhowys ond mae bellach yn byw yn Llundain.

“Cefais ddiwrnod y llynedd pan oeddwn gartref yn y canolbarth yn helpu gyda’r defaid a’r ŵyn o tua chwech y bore tan amser cinio, yna mi wnes i ddal trên i Lundain a threulio’r noson gyfan yn chwarae yn St James’s Palace,” meddai.

'Elwa'

Yn ogystal â'i gwaith i’r teulu brenhinol, mae Huws yn perfformio'n rheolaidd mewn cartrefi gofal ac yn gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol.

“Fel artist, dwi’n teimlo bod gennych chi gyfrifoldeb i gyrraedd pobol sy’n methu cyrraedd chi, yn hytrach na disgwyl iddyn nhw ddod i ddod o hyd i chi mewn neuadd gyngerdd,” meddai.

“Yn aml, daw fy mhrofiadau mwyaf gwobrwyol a dyrchafol o ddod â cherddoriaeth i’r gymuned a dod o hyd i’r bobl a all elwa’n fawr o glywed cerddoriaeth fyw.”

Yn ddiweddar, roedd Huws yn un o 30 o sêr y dyfodol o dan 30 oed Classic FM ar gyfer 2024.

Llun: Karolina Wielocha

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.