Newyddion S4C

Kate Forbes yn camu o'r neilltu wrth i John Swinney sefyll i fod yn Brif Weinidog newydd yr Alban

02/05/2024
John Swinney

Mae'r ymgeisydd cyntaf i ddatgan ei fod yn rhedeg i olynu Humza Yousaf fel arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban, wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll yn y ras.

Roedd John Swinney yn ddirprwy brif weinidog am dros wyth mlynedd, a hynny o dan Nicola Sturgeon.

Daw wrth i'r ymgeisydd arall mwyaf tebygol, Kate Forbes, gamu o'r neilltu a rhoi sel bendith i John Swinney. 

Mae ymgyrch John Swinney ar gyfer yr arweinyddiaeth eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan nifer o ffigyrau amlwg yr SNP, gan gynnwys arweinydd y blaid yn San Steffan Stephen Flynn, Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, Neil Gray ac Ysgrifennydd Addysg yr Alban, Jenny Gilruth.

Wrth gyhoeddi ei gais am yr arweinyddiaeth ddydd Iau, dywedodd Mr Swinney ei fod eisiau uno'r Alban ar gyfer annibyniaeth.

“Rwyf am adeiladu ar waith Llywodraeth yr SNP i greu Alban fodern, amrywiol, deinamig a fydd yn sicrhau cyfleoedd i bob un o’n dinasyddion.

“Dw i eisiau uno’r SNP ac uno’r Alban ar gyfer annibyniaeth.”

Dywedodd Mr Swinney, os caiff ei ethol, y bydd yn “rhan o dîm unedig sy’n tynnu’r blaid gyfan at ei gilydd”, a dywedodd ei fod am i Ms Forbes “chwarae rhan sylweddol yn y tîm hwnnw”.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.