Newyddion S4C

‘Syndod’ pe na bai newidiadau i’r cynllun amaeth meddai ysgrifennydd gwledig newydd

01/05/2024

‘Syndod’ pe na bai newidiadau i’r cynllun amaeth meddai ysgrifennydd gwledig newydd

"This is a very strong statement."

Mae 'na deimladau cryfion iawn wedi bod.

Cannoedd o ffermwyr yn ymgynnull ac yn protestio yn erbyn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Bwriad Llywodraeth Cymru ydy cysylltu cymorthdaliadau gyda gwaith amgylcheddol.

A'r bwriad felly i blannu coed ar 10% o'r tir.

Neithiwr fodd bynnag, fe awgrymodd yr Ysgrifennydd Cabinet ar raglen Ffermio y gallai ambell beth newid.

"The broad framework we're agreed on. The high line objectives too.

"There are some knotty issues, "I'd be really surprised if there... "..weren't some adjustments.

"Don't ask me to preempt where we're going.

"There's been a consultation and we'll work with others now.

"We're listening to take forward the ideas about how we... "..might adjust and change things."

Mae'r ymgynghoriad ar ben ond roedd dros 12,000 o ymatebion.

Mae'r undebau wedi bod yn trafod a'r gwleidyddion sydd naw yn arwain Llywodraeth Cymru ac yn gobeithio y bydd 'na newid.

"Ar hyn o bryd 'dan ni'n datblygu perthynas newydd gyda'r Gweinidog.

"Mae'n rhaid cael newidiadau sylfaenol a gwrando.

"Mae ffermwyr yn gwneud eu rôl mewn cymdeithas... "..ac mae'r pwysigrwydd o gynhyrchu bwyd... "..gwarchod yr amgylchedd a gwarchod anifeiliaid hefyd.

"Mae'n rôl bwysig ofnadwy a peidio byth a diystyru'r pwysigrwydd."

Mae'n fwriad o hyd i ddechrau'r drefn newydd y flwyddyn nesaf er yr ymateb cryf.

Beth ydy barn ffermwyr o glywed y gallai'r cynllun newid?

"Braf iawn clywed awgrym bod 'na newidiaeth... "..ond ni fel diwydiant moyn gweld hwnna'n dod trwyddo... "..sooner rather than later.

"Mae ffermwyr yn disgwyl cael clywed rhywbeth positif ers amser.

"Edrych nôl ar y gaeaf sydd wedi bod mor ddychrynllyd achos y tywydd.

"Mae isio rhyw oleuni arnon ni."

"Bydd e'n neis os bydd e'n gallu newid pethe.

"I wneud pethe'n rhwyddach i bawb.

"Mae e digon caled ar y funed heblaw bod rhagor yn cael ei roi... "..i stopio ni gario 'mlaen a neud beth ni'n gallu neud."

Chi'n barod i blannu coed os bydd angen?

"Na, bydden i'n dod mas o'r system."

'Sach chi'm yn cael arian wedyn?

"Bydd rhaid inni neud y gorau o beth ni'n gallu neud. "

Ar ddiwedd y dydd mae e digon caled neud beth mae'n rhaid i ni wneud.

"Heb bod pobl yn gweud shwt i wneud pethau."

Awgrym felly y gallai cynllun y Llywodraeth gael ei addasu er na wyddon ni eto sut na beth fydd ymateb byd amaeth i hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.