Newyddion S4C

Bwrdd iechyd y gogledd yn gwario dros £1m y mis ar anfon cleifion iechyd meddwl allan o'r rhanbarth

01/05/2024

Bwrdd iechyd y gogledd yn gwario dros £1m y mis ar anfon cleifion iechyd meddwl allan o'r rhanbarth

Ym Mhentrecelyn ger Rhuthun mae Nia Foulkes yn byw gydag anhwylder deubegynnol, bipolar.

Bum mlynedd nôl, ar ôl rhoi genedigaeth i'w mab, Gwilym bu'n rhaid iddi gael gofal arbenigol a theithio i uned mamau a babanod ym Manceinion am driniaeth.

"Mae mynd o adre i gleifion yn beth brawychus.

"Dw i 'di bod trwy gymaint... "..ac mae'n bwysig iawn bod adre, dw i'n meddwl... "..o fewn adre, os yn bosib, ynde.

"Mae o'n andros o lot o straen."

Ond mae'n ymddangos nad yw profiad Nia Foulkes yn unigryw.

Rhai wythnosau nôl, fe gysylltodd rywun 'da fi sy'n gweithio i wasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Ro'n nhw'n poeni am les cleifion gan ddweud bod nifer cynyddol yn cael eu hanfon tu fas i'r gogledd i gael triniaeth ac yn beio camreolaeth am hynny.

Fe es i ati i sgwennu cais rhyddid gwybodaeth at y Bwrdd Iechyd.

Roedd yr ymateb yn drawiadol.

Yn ôl y Bwrdd Iechyd, roedd 48 o gleifion iechyd meddwl yn cael eu trin tu fas i'r gogledd ar Fawrth y cyntaf eleni.

Roedd llai na hanner hynny - 22, ar yr un dyddiad y llynedd a dim ond tri ar ddydd Gŵyl Dewi ddwy flynedd nôl.

Rhwng dechrau mis Ionawr a diwedd mis Mawrth eleni wnaethon nhw wario dros £3.5 miliwn ar anfon cleifion iechyd meddwl tu fas i'r gogledd am driniaeth.

Ym Mae Caerdydd, mae rhai gwleidyddion yn poeni.

"Mae'n amlwg bod y sefyllfa'n gwbl annerbyniol.

  "Nid yn unig fod y Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig... "..ond mi ydyn ni hefyd yn gwybod fod 'na bwysau ariannol dybryd... "..ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a'r byrddau iechyd eraill... "..ac felly'n gweld y lefelau yma o arian yn cael ei wario... "..all unoli'r gwasanaethau yna... "..yna, mae o'n fater o bryder.

"Mi fydd yn rhaid i mi... "..ofyn y cwestiynau anodd yna i'r Gweinidog... "..a sicrhau fod y Gweinidog a'r Bwrdd Iechyd yn atebol am hyn."

"Mae cleifion bregus... "..yn cael eu hanfon i ffwrdd o'u teulu a'u ffrindiau. "Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru cael gafael ar hyn."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw am i gleifion â phroblemau iechyd meddwl gael gofal mor agos â phosib at adre ond bod rhai adegau lle bod rhaid i glaf deithio o ardal eu bwrdd iechyd i gael triniaeth.

Ymddiheuro am y sefyllfa wnaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gan ddweud bod diffyg staff, galw cynyddol am wasanaethau a thrafferthion yn anfon cleifion mas o ysbytai yn cyfrannu at y sefyllfa.

"We are spending an excessive amount of money... "..in placing people elsewhere.

"With the risk associated, that we already touched... "..and that money could probably be better spent... "..into expanding the current provision.

"I certainly sympathise deeply with the patients.

"All our strategy is about providing care closer to home... "..and the inability to do so... "..is clearly something that we are acutely aware."

Mae Nia Foulkes bellach nôl gartre ac yn rhedeg busnes gofalu am gŵn.

I ddegau o gleifion yn y gogledd mae gorfod teithio o'r ardal am driniaeth yn parhau yn realiti.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.