Rishi Sunak yn galw am ymchwiliad i roddion ymgyrch Vaughan Gething
Mae Rishi Sunak wedi galw am ymchwiliad annibynnol i roddion a gafodd eu gwneud i ymgyrch arweinyddol Prif Weinidog Cymru.
Roedd yn ymateb i gwestiwn AS Preseli Penfro, Stephen Crabb yn ystod sesiwn gwestiynau’r Prif Weinidog yn San Steffan.
Daw sylwadau Rishi Sunak wedi i gwestiynau godi ynglŷn ag ymgyrch Vaughan Gething i olynu Mark Drakeford yn swydd arweinydd Llafur Cymru.
Yn ystod y ras, fe ddaeth i’r amlwg bod ei ymgyrch wedi derbyn rhodd o £200,000 gan y Dauson Environmental Group.
Mae Vaughan Gething eisoes wedi penodi cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones i arwain ymchwiliad i’r ras i’w ethol.
Ond dywedodd Rishi Sunak ei fod yn "fater anhygoel o bwysig a dwi'n gwybod bod pobol yng Nghymru yn poeni am y berthynas mae o [Stephen Crabb] yn sôn amdani”.
“Rwyf hefyd yn cytuno am yr angen am dryloywder ac ymchwiliad i arweinydd Llafur Cymru oherwydd mae’n amlwg iawn nad yw’r sefyllfa’n dryloyw o gwbl ac mae angen atebion.”
Mae Mr Gething wedi dweud ei fod bob amser yn dilyn y rheolau ac na ddylai orfod rhoi'r arian yn ôl.
Daw wedi i’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru amserlenu pleidleisiau ar y mater yn y Senedd brynhawn Mercher.
‘Mater difrifol’
Wrth siarad yn Nhy’r Cyffredin dywedodd Stephen Crabb bod “miloedd o fy etholwyr wedi byw gydag aer llygredig budr o safle tirlenwi Withyhedge ers chwech mis”.
“Mae’r cwmni’n eiddo i rywun sydd ag euogfarnau blaenorol am droseddau amgylcheddol ac a roddodd £200,000 ychydig fisoedd yn ôl i helpu Vaughan Gething i ddod yn Brif Weinidog Cymru.
“Daeth hyn ar ôl i un arall o’i gwmnïau gael benthyg £400,000 gan Fanc Datblygu Cymru, oedd dan oruchwyliaeth gweinidog yr economi ar y pryd, Vaughan Gething.
"Ydy'r prif weinidog yn cytuno â mi bod hyn yn fater difrifol sy’n galw am ymchwiliad annibynnol?
“Nid mater mewnol i’r Blaid Lafur ydyw, ac yn y pen draw mae angen i'r cwmni hwnnw fynd allan o fy etholaeth a chaniatáu i bobl yn Sir Benfro gael eu bywydau yn ôl?"
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad troseddol i "sawl achos difrifol" o dorri amodau trwydded gan weithredwyr safle tirlenwi Withyhedge.
Mae gweithredwyr safle Withyhedge, Resources Management UK Limited wedi dweud eu bod yn "ymddiheuro'n ddiamod" am y sefyllfa yno ac y byddant "yn parhau i fod yn agored a chydweithio gydag unrhyw ymchwiliadau gan Gyfoeth Naturiol Cymru”.