Dod o hyd i gorff dyn yn aber Afon Cleddau yn Sir Benfro
Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff dyn yn aber Afon Cleddau yn Sir Benfro.
Dyw'r dyn ddim wedi ei enwi, ond mae'r heddlu wedi cysylltu â theulu Luke Stephenson, dyn 19 oed sydd wedi bod ar goll ers 13 Ebrill.
Ar 19 Ebrill fe gyhoeddodd yr heddlu eu bod nhw wedi rhoi’r gorau i chwilio am Luke o Ddoc Penfro “ar ôl ystyriaeth ofalus o'r holl wybodaeth a chyngor arbenigol oedd ar gael".
Ddydd Mercher dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff ond heb ei adnabod yn ffurfiol.
“Gall Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau bod corff wedi’i ddarganfod yn Aber Afon Cleddau tua 9.30 fore heddiw, dydd Mercher, 1 Mai 2024,” meddai llefarydd.
“Nid yw wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae teulu Luke wedi cael gwybod am y datblygiad hwn.
“Mae ein meddyliau gyda’r teulu ar yr adeg anodd hon.”