Newyddion S4C

Angen rheoli AI ym myd cerddoriaeth medd AS

01/05/2024
Taylor Swift a Kevin Brennan

Mae angen deddfwriaeth er mwyn rheoli defnydd deallusrwydd artiffisial(AI) yn y diwydiant cerddoriaeth, medd Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd.

Yn ôl Kevin Brennan, cadeirydd y grŵp aml-bleidiol yn San Steffan ym maes cerddoriaeth (APPG) byddai hynny yn fodd o frwydro yn erbyn bygythiad AI.  

Gwnaeth ei sylwadau wrth i'r grŵp gyhoeddi adroddiad newydd sy'n awgrymu fod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn dymuno gweld rheoliadau er mwyn atal fersiynau ffug o artistiaid fel Dua Lipa a Taylor Swift.

Roedd 83 % o'r 2,110 a gafodd eu holi yn cytuno bod angen gwarchod "personoliaeth a chreadigrwydd " artistiaid, a bod angen cyfraith yn ei lle er mwyn cyflawni hynny.    

Yn ddiweddar, cafodd lluniau ffug o'r gantores Americanaidd Taylor Swift eu rhannu ar gyfrwng cymdeithasol X. Cafodd y lluniau eu tynnu oddi yno gan X fis Ionawr.  
 

Dywedodd Mr Brennan: “Rydym ni hefyd angen cydnabod y perygl mewn rhai meysydd, wrth i AI ddatblygu ac effaith hynny ar gerddorion yn y Deyrnas Unedig."

Ddechrau Ebrill, fe gyhoeddodd mwy na 200 o artistiaid eu bod yn gwrthwynebu "defnydd AI sy'n dwyn lleisiau artistiaid proffesiynol". Fe wnaethon nhw arwyddo llythyr agored yn rhybuddio cwmnïau na ddylid defnyddio caneuon neu weithiau eraill heb eu hawdurdodi.  

Mae'r seren bop Engelbert Humperdinck, a'r cyn aelod o'r band One Direction - Zayn Malik ymhlith yr artistiaid sydd wedi llofnodi'r llythyr agored.

Mae Adran Gyfryngau Diwylliant a Chwaraeon San Steffan wedi cael cais i ymateb. 

Llun: Taylor Swift  - Valerie Macon / Wochit

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.