Newyddion S4C

Yr Wyddgrug: Un person yn yr ysbyty gyda mân anafiadau wedi ffrwydrad mewn ffatri gemegau

30/04/2024

Yr Wyddgrug: Un person yn yr ysbyty gyda mân anafiadau wedi ffrwydrad mewn ffatri gemegau

Mae un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau wedi ffrwydrad mewn ffatri gemegau yn Yr Wyddgrug.

Mae'r gwasanaethau brys wedi annog trigolion i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau ar ôl cael eu galw i ffrwydrad mewn ffatri gemegau Synthite ddydd Mawrth.

Dywedodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw i'r ffatri am 14:06 ddydd Mawrth yn dilyn adroddiadau bod yna dân.

Cafodd un person ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau ac mae'r tân bellach dan reolaeth.

Dywedodd Cynghorydd Tref Yr Wyddgrug, Catherine Claydon-Hill wrth Newyddion S4C bod y ffrwydrad wedi dychryn nifer o bobl.

"Roedd y digwyddiad wedi dychryn pawb, wrth gwrs. Mae gen i ffrindiau sy’n gweithio yn Synthite, felly roedd e’n ofnus iawn.

"Ond diolch o galon i’r gwasanaethau argyfwng sy’ wedi gweithio i stopio’r tan prynhawn yma.

"Roedd yr ymateb gymunedol yn ffantastig, llawer o gefnogaeth i pobl sy’n byw ger Synthite, byw gyda plant ger Synthite."

Mae cwmni Synthite wedi bod yn cynhyrchu cemegau ar y safle, gan gynnwys fformaldehyd a chemegau a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth.

Mae'r heddlu wedi annog trigolion lleol i gau eu ffenestri a'u drysau ac osgoi'r ardal oherwydd y mwg.

Mae ffordd yr A541 ar gau o'r gyffordd â Threflan i'r gyffordd â Heol Black Brook, Rhyd y Goleu.

Llun: ITV Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.