Newyddion S4C

Cerddwr mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad yn Llŷn

27/06/2021
Sarn Meyllteyrn

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i gerddwr gael ei anafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd nos Sadwrn, 26 Mehefin.

Dywed yr heddlu fod y cerddwr wedi ei daro gan gerbyd ar lôn gefn rhwng Sarn Meyllteyrn a Botwnnog am o ddeutu 23:00. 

"Rwy'n mawr obeithio y bydd y cerddwr yn gwella'n dda," meddai PC Alaw Roberts o'r Uned Plismona Ffyrdd.

"Yn anffodus, mi fethodd gyrrwr y cerbyd â stopio yn y fan a'r lle, a chynnig unrhyw fath o gymorth i'r cerddwr oedd yn gorwedd mewn cyflwr difrifol.

"Mae ymholiadau'n parhau a bydd tystiolaeth o'r olygfa yn cael eu goruchwylio i geisio adnabod y cerbyd dan sylw.

"Rydym yn annog y gyrrwr i wneud y peth iawn a chysylltu gyda ni.

"Rydym yn apelio ar dystion neu unrhyw un sydd gan unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gyda ni.

"Mae'n debygol iawn fod cerbyd y sawl sydd dan amheuaeth wedi cael ei ddifrodi yn dilyn y gwrthdrawiad."

Fe all unrhyw un sydd gan wybodaeth gysylltu gyda'r heddlu gan ddefnyddio'r cyfeirnod Z091613.

Llun: Google 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.