Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o Ferthyr Tudful o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus

30/04/2024
Demi Leigh Mabbitt.png

Mae dyn 29 oed o Ferthyr Tudful wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Fe fydd Cameron Jones yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mawrth wedi ei gyhuddo hefyd o achosi marwolaeth drwy yrru cerbyd heb yswiriant, methu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad, methu ag adrodd am wrthdrawiad ac achosi marwolaeth tra wedi ei wahardd rhag gyrru. 

Bu farw Demi Mabbitt, 25, o'i hanafiadau ar 12 Ebrill, wythnos ar ôl y gwrthdrawiad. 

Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei thad Paul Mabbitt ei bod yn "ferch, wyres, chwaer, modryb a chyfneither hyfryd".

"Roedd yn enaid clên, ac er mai nid hi oedd yr hynaf na'r ieuengaf, hi oedd y person oedd yn dal ein teulu gyda'i gilydd, ac fe frwydrodd hi tan y diwedd un.

"Does dim geiriau i ddisgrifio'r boen yr ydym ni'n deimlo. Bydd ein merch yn parhau i fyw trwy atgofion, ac fe fyddwn yn ei chofio am byth."

Mae ei theulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.