S4C yn rhan o wasanaeth ffrydio newydd sy'n 'diogelu teledu am ddim'
Gall gwylwyr S4C wylio eu hoff raglenni ar wasanaeth ffrydio newydd sydd wedi’i greu’n arbennig gan gewri’r byd darlledu fel rhan o ymdrech i ddiogelu teledu am ddim.
Mae gwasanaeth ffrydio Freely yn gydweithrediad rhwng y BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5.
Mae'n galluogi cynulleidfaoedd i barhau i wylio’r teledu, heb orfod cael dysgl loeren neu aerial ar y tŷ.
Fe fydd gwylwyr Freely yn gallu ffrydio sianeli teledu byw ar eu setiau teledu clyfar gan ddefnyddio cyswllt i’r we yn unig.
Mae disgwyl i wasanaeth Freely lansio rywbryd rhwng Mai a Mehefin 2024, ac mi fydd y gwasanaeth ffrydio wedi’i osod yn barod mewn setiau teledu clyfar newydd.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol S4C, Elin Morris, ei bod yn falch o allu dod â rhaglenni Cymraeg i gynulleidfaoedd newydd drwy wasanaethau Freely.
"Byddwn yn gallu dangos y creadigrwydd a'r dalent sydd gennym yng Nghymru i gartrefi ledled y DU.
"Bydd gwylwyr yn gallu gwylio rhaglenni dogfen, drama, newyddion a chwaraeon yn fyw ac ar alw," meddai.