Newyddion S4C

Tata yn 'gwrthod' cynllun undebau i ddiogelu swyddi ym Mhort Talbot

29/04/2024

Tata yn 'gwrthod' cynllun undebau i ddiogelu swyddi ym Mhort Talbot

Yr ymgyrch yn parhau ond y penderfyniad terfynol wedi dod gan Tata Steel.

Fe fydd ffwrneisi chwyth Port Talbot yn cael eu diffodd eleni a gweithfeydd dur mwyaf Prydain yn tawelu am ychydig.

Fe fydd Tata yn adeiladu ffwrnais drydan newydd ar y safle yma ond fe fydd hanner y gweithlu presennol yn colli eu swyddi cyn i'r gwaith adeiladu gychwyn.

Mae Tata Steel yn mynd i ddiffodd un o'r ffwrneisi chwyth fis Mehefin.

Y llall erbyn yr hydref gan ddod i ben a'r ffordd draddodiadol o gynhyrchu haearn a dur ar y safle yma.

Y rhesymau ariannol sydd tu ôl i hyn.

Mae Tata'n mynnu bod angen gwneud arbedion cyn iddyn nhw fuddsoddi mewn ffordd newydd o gynhyrchu dur ar yr un safle.

"We've incorporated some elements of the plan into our plans.

"The original plan was to mothball.

"We've followed the Union's suggestions.

"We've taken on board the suggestions we think can work.

"Obviously the overall multi-union plan is not financially viable.

"That's what we communicated today."

Misoedd ers y cyhoeddiad cyntaf ynglŷn â dyfodol y safle mae'r sioc a'r siom dal yn amlwg yma ym Mhort Talbot.

"Ni'n teimlo bod nhw am ein lladd ni. Dy'n nhw ddim yn moyn ni rhagor.

"Mae'n deimlad o alar.

"Fi'n teimlo'n hynod o emosiynol am y peth er nad wi wedi gweithio 'ma.

"Mae'n rhan o'n magwraeth i.

"Fi'n teimlo mai dim ond arian maen nhw'n meddwl am.

"Mae dur yn beth pwysig iawn a ni'n gwybod 'nny.

"Dydyn nhw'm yn meddwl am y dyfodol."

Llywodraeth Prydain wnaeth daro'r bargen gyda Tata Steel gyda hanner biliwn o arian trethdalwyr yn cyfrannu at y gost o adeiladu'r ffwrnais drydan fydd yma ymhen tair blynedd.

Ond mater i'r cwmni ydy dyfodol y gweithlu yn ôl yr ysgrifennydd gwladol.

Mae e bellach yn cadeirio corff sy'n ceisio trefnu cefnogaeth i rai sy'n colli eu swyddi.

"Ni wedi sefydlu canolfannau drop-in a dw i wedi ymweld heddiw.

"Mae pobl sy'n wynebu redundancy yn gallu dod a siarad ag aelodau... "..o'r DWP, Welsh Government.

"Ni eisiau sicrhau bod unrhyw un sy'n gallu cael hyfforddiant... "..yn cael yr hyfforddiant i fynd i swyddi eraill.

"Fi'n barod i wneud unrhyw beth arferol i helpu bobl... "..sy'n wynebu redundancy ar hyn o bryd."

Mae'r amserlen sydyn iawn sydd gan Tata Steel... ..yn golygu bod rhaid i'r grŵp o wleidyddion a lleisiau lleol symud yn gyflym i gefnogi'r gweithwyr.

Cronfa gwerth can miliwn o bunnoedd sydd ar gael i helpu ail-hyfforddi'r rheiny fydd yn colli eu swyddi.

Ond mae 'na gydnabyddiaeth bydd y misoedd nesaf yn anodd iawn.

"Ni fel Llywodraeth yn credu bod bargen well ar gael... "..ar gyfer y sector a'r gweithwyr.

"Ni'n dadlau dros hynny.

"Nawr ni angen cael trafodaethau pellach ar oblygiadau... "..y penderfyniad ar y gweithlu lleol a dyfodol cynhyrchu dur yma.

"Ni angen gwneud ein gorau i sicrhau buddsoddiad a swyddi i'r dyfodol."

Dyma ddiwedd y daith i'r ymgyrch i newid meddyliau Tata Steel a dechrau cyfnod newydd o ansicrwydd i'r gweithlu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.