Newyddion S4C

Ysgol Dyffryn Aman i ailagor ddydd Llun yn dilyn ymosodiad

28/04/2024
Ysgol Dyffryn Aman

Fe fydd Ysgol Dyffryn Aman yn ailagor ddydd Llun yn dilyn ymosodiad ddydd Mercher pan gafodd dwy athrawes ac un disgybl eu trywanu.

Mewn datganiad ddydd Sul dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y bydd "ystod eang o gymorth lles yn parhau i gael ei gynnig i ddisgyblion, athrawon a staff yn yr ysgol".

Ychwanegodd y llu: “O ddydd Llun ymlaen, fe fydd tîm seicoleg addysg a phlant ar gael i ddisgyblion a staff yn yr ysgol a byddant yn cynnal presenoldeb yn yr ysgol am y bythefnos nesaf er mwyn darparu cymorth fel y bo angen."

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ross Evans: “Hoffwn dawelu meddyliau rhieni a’r cyhoedd ein bod ni’n gweithio gyda’r ysgol ac asiantaethau eraill i sicrhau bod y cymorth priodol ar gael i bawb oedd ynghlwm â’r digwyddiad.

“Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi creu strategaeth er mwyn  ymgysylltu gyda phob ysgol yn yr ardal yn dilyn y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.

“Gallwch ddisgwyl rhagor o ymgysylltiad gyda’ch Swyddog Heddlu Ysgol a thîm yr  heddlu yn y gymdogaeth yn ystod yr wythnos. Gallwch gael sgwrs gyda’n swyddogion os oes unrhyw bryder gyda chi."

Athrawon

Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau mai Fiona Elias a Liz Hopkin oedd y ddwy athrawes a gafodd eu trywanu yn yr ysgol ddydd Mercher. 

Fe gafodd plentyn yn ei arddegau ei drywanu hefyd, ac fe gafodd y tri eu rhyddhau o'r ysbyty ddydd Iau.

Mae’r ddwy athrawes wedi diolch i'r gymuned am ei chefnogaeth.

Fe wnaeth merch 13 oed ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli fore Gwener wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobl yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd y ferch ei chadw mewn sefydliad ieuenctid yn dilyn y gwrandawiad.

Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Abertawe lle bydd y ferch yn ymddangos ar 24 Mai.

Ddydd Sadwrn fe wnaeth Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys ganmol staff, disgyblion, a’r teulu ysgol ehangach am eu "hymateb trawiadol" i’r digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher.

Mewn llythyr a anfonwyd ar y cyd â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, dywedodd Richard Lewis: “Mae yna ymchwiliad byw o hyd ac er bod yn rhaid i ni wrth gwrs fod yn ofalus i beidio â pheryglu’r gwaith hwn, mae arwyddion cynnar yn dangos bod ymateb uniongyrchol eich staff a’ch disgyblion yn haeddu canmoliaeth sylweddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.