Newyddion S4C

Rishi Sunak yn gwrthod gwadu y bydd etholiad cyffredinol fis Gorffennaf

28/04/2024
Rishi Sunak - Llun Trysorlys

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi gwrthod gwadu y bydd etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.

Mae hyn wedi cynyddu’r dyfalu dros amseru’r bleidlais genedlaethol.

Mae Mr Sunak wedi dweud droeon taw ei “dybiaeth weithredol” yw fod yr etholiad yn cael ei gynnal yn ail hanner y flwyddyn hon gyda’r gyfraith yn nodi taw Ionawr 2025 yw’r hwyraf y bydd yn medru cael ei gynnal.

Ond mewn cyfweliad ar raglen Trevor Phillips ar Sky News fe wrthododd Mr Sunak gadarnhau na fydd yr etholiad ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Mr Sunak: “Pan mae’n dod i’r etholiad cyffredinol, rwyf wedi bod yn glir nifer o weithiau.

“Ac eto dwi ddim yn mynd i ddweud unrhyw beth ychwanegol i’r hyn dwi eisoes wedi ei ddweud, rwy’ wedi bod yn glir iawn am hynny.

“Rydych yn mynd i geisio tynnu pa bynnag gasgliad rydych eisiau allan o’r hyn rwy’n ei ddweud. Rwy bob amser yn mynd i geisio dweud yr un peth. Fe ddylech wrando ar yr hyn wnes i ei ddweud, yr un peth rwyf wedi ei ddweud trwy gydol y flwyddyn.

“Ond y pwynt yw, mae yna ddewis pan mae’n dod i’r etholiad cyffredinol. A dros yr wythnos ddiwethaf mae’r wlad yn gallu cael synnwyr clir o’r hyn fydd y gwahaniaeth."

Daw sylwadau Mr Sunak yn dilyn penderfyniad aelod seneddol Ceidwadol yn symud i’r Blaid Lafur.

Dywedodd Dan Poulter, sy’n gweithio’n rhan amser fel meddyg nad oedd yn medru “edrych i mewn i lygaid fy nghydweithwyr yn y GIG ac aros fel Ceidwadwr”.

Fe fydd Dr Poulter yn eistedd fel aelod seneddol Llafur hyd nes yr etholiad cyffredinol ac yna yn camu i lawr.

Mae cyhoeddiad Dr Poulter yn ergyd arall i’r blaid Geidwadol ychydig ddiwrnodau cyn etholiadau lleol Lloegr ar 2 Mai.

Fe fydd colledion yn etholiadau lleol a maerol ar 2 Mai yn arwain naill ai at her i arweinyddiaeth Mr Sunak neu ei berswadio y bydd galw etholiad cyffredinol yn well iddo na cheisio parhau gyda phlaid ranedig.

Llun: Y Trysorlys

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.