Newyddion S4C

Rygbi: Cymru'n curo'r Eidal yn y Chwe Gwlad

27/04/2024
Cymru v Yr Eidal

Fe lwyddodd Cymru i ennill o 22-20 yn erbyn Yr Eidal ac adfer ychydig o hunan barch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Roedd Cymru wedi colli pob un o'u gemau cyn ddydd Sadwrn, ac roedd y prif hyfforddwr Ioan Cunningham wedi dweud bod "rhaid i Gymru ennill".

Roedd Cunningham wedi gwneud pedwar o newidiadau i’r tîm a gollodd yn erbyn Ffrainc.

Fe ddechreuodd Cymru’r gêm yn dda o flaen torf o dros  10,000 yn Stadiwm Principality gan bwyso ar linell gais Yr Eidal yn y munudau agoriadol. Ond fe gollodd Cymru’r bêl dros y llinell gais gan roi'r cyfle i’r Eidal glirio.

Cafodd yr ymwelwyr gyfnod o bwyso ar linell Cymru yn dilyn ciciau cosb ond fe wnaeth eu blaenwyr droseddu yn y lein i alluogi Cymru i godi'r pwysau.

Fe ddangosodd Cymru ysbryd ymosodol yn fuan wedi hynny ond unwaith yn rhagor fe gollwyd y bêl i ddod â'r symudiad i ben yng nghanol cae.

Daeth pwyntiau cynta'r gêm i Gymru ar ôl 15 munud yn dilyn gwaith creadigol ar flaen lein i Gymru gyda'r bachwr Carys Phillips yn croesi. 

Cymru 5-0 Yr Eidal.

Ond byr fu dathliadau Cymru wrth i'r Eidal rwygo'r bêl o ddwylo chwaraewyr Cymru yn dilyn yr ail gychwyn gyda'r asgellwr Ostuni Minuzzi yn croesi am gais. Fe drosodd y canolwr Beatrice Rigoni yn gelfydd i ddodi'r Eidal ar y blaen. 

Cymru 5-7 Yr Eidal ar ôl 17 munud.

Gyda blaenwyr Cymru'n dangos goruchafiaeth yn y sgrymiau roedd Yr Eidal yn ildio sawl cic gosb yn yr agwedd yma.

Daeth cyfle i Gymru i fanteisio ar hyn gyda sgrym pum metr o linell gais Yr Eidal ond Cymru gafodd eu cosbi y tro hwn am wthio i fyny.

Roedd Yr Eidal yn trafod y bêl yn well 'na Chymru ac fe aeth yr ymwelwyr ymhellach ar y blaen gyda chic gosb o flaen y pyst gan Rigoni ar ôl i Gymru gael eu cosbi am beidio symud i ffwrdd o'r dacl ar ôl 38 munud. 

Y sgôr ar yr egwyl: Cymru 5-10 Yr Eidal.

Dechrau da

Dechreuodd yr ail hanner i Gymru yn yr un modd â'r cyntaf wrth i'r blaenwyr bwyso ar linell gais Yr Eidal gyda'r prop Gwenllïan Pyrs yn croesi o dan y pyst. Fe drosodd y mewnwr Keira Bevan i osod Cymru nôl ar y blaen. 

Cymru 12-10 Yr Eidal.

Fe wnaeth Bevan ymestyn mantais Cymru ar ôl 51 munud gyda chic gosb wrth i Gymru edrych yn fwy hyderus yn yr ail hanner. Cymru 15-10 Yr Eidal.

Fe ddaeth Yr Eidal yn gyfartal ar ôl 51 munud wrth i'w holwyr ddangos eu doniau eto gyda'r eilydd Francesca Granzotto yn croesi ar hyd yr ystlys. Cymru 15-15 Yr Eidal.

Bu'n rhaid i Gymru wrthsefyll pwysau gan Yr Eidal ar ôl 63 munud pan gafodd yr ymwelwyr lein yn dilyn cic gosb am dacl uchel. Llwyddodd Cymru i amddiffyn y llinell gais wrth i olwyr Yr Eidal fygwth pob tro roedd y bêl yn eu dwylo.

Fe ymestynnodd Yr Eidal eu blaenoriaeth ar ôl 69 munud trwy eu holwyr unwaith eto gyda Emma Stevanin yn croesi. 

Cymru 15-20 Yr Eidal.

Fe ddaeth cyfle hwyr i Gymru yn dilyn cic ddestlus 50:22 Lleucu George ond nid oedd y tafliad i'r lein yn syth gan Gymru. Fodd bynnag fe lwyddodd Cymru i ennill y bêl yn ôl yn dilyn sgrym gan bwyso ar linell gais Yr Eidal.

Fe groesodd Georgia Evans y llinell gais ond roedd y bêl wedi mynd ymlaen ond fe ddyfarnwyd sgrym i Gymru oherwydd roedd Yr Eidal wedi taro'r bêl ymlaen yn gyntaf.

O'r sgrym wnaeth ddilyn doedd neb yn gallu rhwystro prop Cymru Sisilia Tuipulotu rhag croesi. Gyda Lleucu George yn trosi roedd Cymru nôl ar y blaen gyda'r gêm yn dirwyn i ben.

Y sgôr terfynol: Cymru 22-20 Yr Eidal.

Er bod Cymru wedi ennill maen nhw dal wedi gorffen y bencampwriaeth ar waelod y tabl gan hawlio'r llwy bren, fel tîm y dynion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.