
Gaeaf gwlyb yn creu cur pen i glybiau pêl-droed ar lawr gwlad

Mae timau pêl-droed ar draws Cymru ar frys i orffen y tymor i gwbwlhau’r gemau oedd wedi cael eu gohirio dros gyfnod y gaeaf gwlypaf mewn 130 mlynedd.
Un o’r clybiau hynny yw Clwb Pêl-droed Holton Road yn y Barri sy’n chwarae yng Nghynghrair Alliance De Cymru.
Cyn Ebrill, dim ond dwy gêm gartref roedd y tîm wedi chwarae eleni, oherwydd cyflwr y cae sydd wedi bod yn “ofnadwy” yn ôl yr hyfforddwr, Stuart Jones.
Maen nhw nawr yn chwarae bob dydd Mawrth, Iau a Sadwrn- saith gêm o fewn 22 diwrnod - er mwyn cwblhau’r tymor erbyn 11 Mai.
'Pwysau'n cynyddu'
Yn ôl Stuart Jones, mae’r brys i orffen y tymor yn arwydd nad yw pêl-droed amatur yng Nghymru yn medru ymdopi â’r tywydd gwlyb.
Ym mis Chwefror, fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) ddweud mai dim ond 21% o’r caeau pêl-droed yng Nghymru sydd o "safon da”.
“Mae’r cyfleusterau yn ofnadwy ar y foment. Unwaith i’r tywydd gwlyb ddechrau ym mis Tachwedd, dy’ch chi ddim yn gwybod beth sydd am ddigwydd”.
O ganlyniad, mae angen chwarae ganol wythnos ar ddiwedd y tymor, rhywbeth mae Stuart Jones yn credu sy’n annheg.
“Mae’r gynghrair yn disgwyl i gemau ganol wythnos gico bant dim hwyrach na chwarter wedi chwech”.
“Nid plant sy’n gallu gorffen am 15:30 y’n nhw, ‘chi methu disgwyl i bobl orffen gwaith yn gynnar er mwyn chwarae gêm pêl-droed”.
Un o’r rheiny sydd angen gorffen yn gynnar yw’r amddiffynnwr, Jacob Constant, sy’n gweithio fel arbenigwr concrit.
“Dwi angen gorffen diwrnod gwaith 2-3 awr yn gynnar er mwyn sicrhau bod digon o amser i gyrraedd y gemau mewn amser”.
O ganlyniad mae “terfynau amser [gwaith] yn cael eu colli neu eu gwthio yn ôl... mae hyn yn cynyddu’r pwysau ar y dosbarth gweithiol”.

Ym mis Chwefror, fe wnaeth Noel Mooney, Prif Weithredr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gyfaddef fod “cyfleusterau [pêl-droed] yng Nghymru ddim ble ddylen nhw fod”.
O ganlyniad, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Sefydliad Pêl-droed Cymru eisiau “buddsoddi £10 miliwn y flwyddyn i wella cyfleusterau pêl-droed mewn cymunedau ar draws Cymru”.
Y gobaith yw bydd y buddsoddiad yn “datblygu cyfleusterau pêl-droed ysbrydoledig a fydd yn gwella a thyfu pêl-droed Cymru ar ac oddi ar y cae”, yn ôl CBDC.
Prif lun: ITV Cymru Wales