Newyddion S4C

Ymdrechion i geisio denu gweilch i Sir Benfro

Kevin Phelps a Dave Welton / Adeiladu nyth gweilch

Mae grŵp o ffrindiau wedi dod at ei gilydd i geisio dychwelyd gweilch i Sir Benfro am y tro cyntaf ers bron i 200 mlynedd.

Fe ddaeth Kevin Phelps, Dave Welton a'u ffrindiau at ei gilydd ym mis Hydref 2022 i drafod sut oedd modd bod o gymorth i ddychwelyd gweilch i orllewin Cymru.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Cadeirydd Prosiect Gweilch Sir Benfro, Kevin Phelps bod y prosiect wedi ei sbarduno gan bennod o raglen Autumnwatch.

"Roeddwn i'n gwylio rhaglen ar gyflwyno mannau bridio gweilch ar draws y DU, ac roedd hynny wedi sbarduno syniad i geisio dychwelyd gweilch i Sir Benfro.

"Dechreuodd y drafodaeth gyda ffrindiau, rydym yn grŵp agos gyda sgiliau unigryw ac roeddwn i'n gwybod y gallem weithio gyda'n gilydd yn dda ar y prosiect.

"Felly, roeddem wedi dechrau cwrdd a thrafod sut y byddwn yn symud pethau yn eu blaen."

Flwyddyn a hanner yn ddiweddarach mae'r trafodaethau wedi arwain at adeiladu pum nyth ger Aber Cleddau rhwng Hwlffordd a Doc Penfro.

Image
Adeiladu nythod yn Sir Benfro
Adeiladu nythod ar gyfer y gweilch. Llun: Prosiect Gweilch Sir Benfro

Fe wnaeth gweilch ddiflannu o gynefinoedd brodorol yng Nghymru a Lloegr yn 1847. 

Ym 1954, fe wnaeth pâr fridio yn llwyddiannus yn yr Alban ac maent wedi bridio yno bob blwyddyn ers hynny.

Ar ôl penderfynu ar leoliad fe ddechreuodd y ffrindiau'r broses o adeiladu’r nythod a'u gosod ar bolion telegraff 10 metr o uchder a boncyffion 15 metr o uchder ym mis Hydref y llynedd.

Dave Welton, cadwraethwr lleol oedd wedi arwain y broses adeiladu gyda chefnogaeth gan y National Grid, oedd wedi cyfrannu a chyflenwi'r polion a darparu'r peiriannau i godi'r llwyfannau nythu.

Derbyniodd y prosiect £5,000 gan sefydliad Cynghrair Cefn Gwlad i helpu gyda'r broses adeiladu hefyd.

"Dave Welton wnaeth greu'r nythod o frigau ffawydden ac yna eu llenwi â rhisglau, brigau a mwsogl," meddai Mr Phelps.

"Roeddem wedi cysylltu gyda phobl oedd yn berchen ar dir ger Aber Cleddau, a sicrhau caniatâd cynllunio gan y cyngor a'r Awdurdod Parc Cenedlaethol ac yna roeddem wedi plannu pum nyth a fydd, dwi'n gobeithio, yn denu gweilch."

Erbyn diwedd mis Mawrth eleni roedd y llwyfannau i gyd yn barod ar gyfer y gweilch.

'Golygu'r byd i mi'

Ym misoedd y gaeaf mae gweilch ym mudo i orllewin Affrica, yn bennaf i Gambia a Senegal.

Yn ôl Prosiect Gweilch Sir Benfro mae'r gweilch yn teithio heibio Sir Benfro yn y gwanwyn wrth iddynt ddychwelyd i'r Alban neu wledydd Llychlyn i fridio.

Gyda'r nythod bellach wedi eu hadeiladu, mae Kevin Phelps yn obeithiol y bydd gweilch yn dychwelyd i'r ardal cyn hir.

Image
Gosod nythod i'r Gweilch
Un o'r pum nyth yn cael ei gosod yn Sir Benfro. Llun: Prosiect Gweilch Sir Benfro

"Rydym yn aros i'r gweilch i gyd symud fyny o Affrica, ac rydym wedi dechrau gweld rhai gweilch yn yr ardal.

"Dwi'n optimistaidd iawn oherwydd dyw nhw heb fod yng Nghymru ers tua 200 mlynedd. Felly dwi wir yn meddwl bydd gweilch yn dechrau bridio yma yn y dyfodol agos."

Ychwanegodd y byddai'n golygu'r byd iddo weld gweilch yn bridio yn Sir Benfro, yn dilyn yr hyn a oedd yn freuddwyd yn unig ddwy flynedd yn ôl.

"Fe fyddai'n gam enfawr, dyma pam rydym ni wedi dechrau'r prosiect yma.

"Yn bersonol, fe fydd yn hynod o gyffrous i mi oherwydd dwi wedi caru gweilch erioed ac wedi dotio ar fywyd gwyllt erioed hefyd.

"Fe fyddai'n golygu'r byd i mi ac i Brosiect Gweilch Sir Benfro."

Prif lun: Prosiect Gweilch Sir Benfro

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.