Newyddion S4C

Llanc yn parhau yn y ddalfa wedi adroddiadau o fygythiadau honedig â dryll

25/04/2024
Yr Heddlu

Mae’r heddlu wedi arestio llanc yn Sir Gâr dros nos ar ôl “bygythiadau yn ymwneud â dryll”.

Cafodd gwarant ei gweithredu mewn cyfeiriad yn ardal y dref yn Sir Gaerfyrddin, a oedd yn cyfeirio at y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Cafodd dau athro a disgybl eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman fore Mercher. 

Mae merch 13 oed wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri pherson.

Daeth yr heddlu o hyd i ddryll ‘BB’ – math o ddryll aer.

“Mae’r bachgen yn ei arddegau o Cross Hands yn parhau yn nalfa’r heddlu,” medd llefarydd ar ran y llu.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Ross Evans: “Hoffem ddiolch i’r holl aelodau o’r cyhoedd a adroddodd am bryderon ynghylch negeseuon yr oeddent wedi’u gweld ar-lein. Roedd hyn yn ein galluogi i gymryd camau cyflym wrth weithredu gwarant ac arestio.

“Tra bod yr ymchwiliad hwn yn cael ei redeg ar wahân i’n hymchwiliadau i’r digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher, bydd ein swyddogion yn ceisio sefydlu hygrededd y bygythiadau, ac a oedd unrhyw gysylltiad rhwng y troseddau honedig.

“Unwaith eto, byddwn yn annog pobl i beidio â dyfalu, i beidio â rhannu unrhyw ddelweddau na fideos yn ymwneud â’r naill ymchwiliad na’r llall, ac i ganiatáu inni gynnal ein hymholiadau’n llawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.