Newyddion S4C

Mynnu bod dyfarniadau un gair Ofsted yn cynnig ‘buddiannau sylweddol’

25/04/2024
Ruth Perry

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi dyfarniadau un gair gan gorff Ofsted sy'n cynnal safonau yn ysgolion Lloegr, er gwaethaf galwadau i gael gwared ohonyn nhw.

Mae'r dyfarniadau sy'n gallu labelu ysgolion yn 'annigonol' wedi dod dan y lach wedi i gwest ddod i'r casgliad bod archwiliad Ofsted yn 2022 wedi cyfrannu at farwolaeth y brifathrawes Ruth Perry (uchod). 

Mae’r Adran Addysg wedi dweud y bydd yn “parhau i wrando ar farn ac edrych ar systemau amgen” ond mae’n credu bod “buddiannau sylweddol” i’r graddau sydd yn cael eu dyfarnu gan y corff gwarchod ysgolion.

Wrth ymateb i ymchwiliad i Ofsted gan Bwyllgor Dethol Addysg Tŷ’r Cyffredin, dywedodd yr Adran Addysg fod y dyfarniad cyffredinol yn rhoi trosolwg “cryno” i rieni ac yn helpu i nodi pa ysgolion sydd angen cymorth.

Dywedodd llefarydd ar ran yr adran mai ei blaenoriaeth yw chwilio am ffyrdd o wella’r system arolygu yn hytrach na “datblygu dewis arall iddi”.

‘Siomedig’

Mae ymateb y Llywodraeth wedi cael ei ddisgrifio gan arweinwyr undebau addysg fel un “siomedig iawn” ac yn gyfle coll am “newid ystyrlon”.

Dywedodd yr Athro Julia Waters, chwaer Ms Perry, fod yr ymateb yn “druenus o annigonol” a nad yw’r newidiadau arfaethedig yn mynd yn “ddigon pell”.

Fe gymerodd Ms Perry ei bywyd ei hun ar ôl i adroddiad Ofsted israddio Ysgol Gynradd Caversham yn Reading o’i sgôr uchaf, “rhagorol”, i’w sgôr isaf, “annigonol”, oherwydd pryderon diogelu.

Ym mis Rhagfyr, daeth crwner i’r casgliad bod arolygiad Ofsted ym mis Tachwedd 2022 wedi “cyfrannu” at farwolaeth Ms Perry.

Galwodd adroddiad gan y Pwyllgor Dethol ar Addysg ar yr Adran Addysg ac Ofsted i ddatblygu dewis amgen i’r dyfarniadau un gair “fel blaenoriaeth”.

Dywedodd fel “cam cyntaf” y dylai gwefannau Ofsted a’r Adran Addysg ddangos sgôr ysgol mewn gwahanol feysydd, nid dim ond y farn gyffredinol.

'Manteision'

Rhestrodd yr Adran Addysg fanteision dyfarniadau un ymadrodd yn ei hymateb i Aelodau Seneddol.

Dywedodd: “Felly, er y bydd y Llywodraeth yn parhau i wrando ar farn ac edrych ar systemau amgen, gan gynnwys y dulliau amrywiol sydd yn cael eu defnyddio yn rhyngwladol, barn y Llywodraeth yw bod manteision sylweddol o gael gradd effeithiolrwydd cyffredinol Ofsted.

“Yn ein barn ni, y flaenoriaeth yw chwilio am ffyrdd o wella’r system bresennol yn hytrach na datblygu dewis arall iddi.

“Mae hyn yn cynnwys ystyried gydag Ofsted gyflwyniad ei ganfyddiadau a’i raddau, a chyfleoedd i dynnu sylw at rai o’r manylion sy’n dod o dan y radd gryno.”

Dywedodd Paul Whiteman, ysgrifennydd cyffredinol undeb arweinwyr ysgolion yr NAHT: “Nid yw dyfarniadau un gair yn ‘rhoi budd sylweddol’ – maen nhw’n niweidiol iawn ac mae’n rhaid cael gwared arnyn nhw’n gyfan gwbl.

“Dangosodd digwyddiadau trasig y llynedd hynny, ac ni allwn ddiystyru bod rhywbeth ofnadwy yn digwydd eto yn y dyfodol os na fydd yr arolygiaeth yn newid.

“Pe bai sefyllfa mor erchyll yn digwydd, gweinidogion fydd angen ateb am y penderfyniadau sydd wedi’u gwneud.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Addysg: “Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ddileu dyfarniadau un gair. Maent yn rhoi’r hyder i rieni ddewis yr ysgol iawn ar gyfer eu plentyn ac yn darparu sylfaen glir ar gyfer gweithredu i wella ysgolion sy’n tanberfformio.

“Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi bod yn glir y byddwn yn parhau i ystyried ffyrdd o wella’r system bresennol, gan gynnwys edrych ar ddulliau rhyngwladol o weithredu, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed barn athrawon, rhieni a phlant drwy’r Gwrandawiad Mawr.”

Llun: Andrew Matthews / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.