
Enillwyr y loteri o Gonwy yn cynorthwyo'r ysbyty a achubodd fywyd eu mab
Mae cwpwl o Gonwy a enillodd £1 miliwn ar y Loteri Cenedlaethol wedi cynorthwyo'r ysbyty a achubodd fywyd eu mab.
Enillodd Ceri a Paul Roscoe-Roberts, ar yr EuroMillions fis Tachwedd 2023.
Ddydd Mawrth, ymunodd y ddau â 21 o enillwyr eraill y Loteri Cenedlaethol yn ysbyty plant Alder Hey yn Lerpwl er mwyn cynorthwyo gyda'r gwaith garddio ar y safle.
Dywedodd Ceri Roscoe-Roberts, 43, fod yr ysbyty wedi achub bywyd ei mab ieuengaf sydd bellach yn 16 oed.
Fe chwalodd ei goets pan roedd yn blentyn ifanc ag yntau ynddi a bu'n rhaid iddi adfywio ei mab.
Dywedodd y fam i bump o blant : “Heb Alder Hey, ni fyddai fy mab ieuengaf yma heddiw.
“Mae'r ysbyty yn cyflawni cymaint o waith rhagorol, ac fy mraint enfawr i yw bod yn ôl yma heddiw, yn rhoi rhywbeth yn ôl a chyfrannu i brosiect a allai helpu miloedd o bobl am flynyddoedd i ddod.”
Mae'r enillwyr, a enillodd gyfanswm o £32 miliwn, wedi treulio'r diwrnod yn plannu planhigion ar hyd llwybr cerdded ar dir yr ysbyty.

Prif lun: Loteri Cenedlaethol