Newyddion S4C

Rhybudd am ofal i gleifion asthma wrth i deulu alaru am eu mab

24/04/2024
Asthma

Mae mam yn galw am fwy o ymwybyddiaeth am y cyflwr asthma yn dilyn marwolaeth ei mab. 

Bu farw Warren Dowling a oedd yn 10 oed yn ddisymwth fis Mawrth 2023. 

Rai oriau ynghynt, dywedodd ei fod yn teimlo'n "hollol iawn" yn yr ysgol, a bu farw wedi iddo fod yn chwarae gyda'i frawd ar drampolîn.  

Disgrifiodd ei fam yr eiliad pan ofynnodd am ei bwmp asthma ar ôl bod yn chwarae, cyn iddo droi'n las yn sydyn a stopio anadlu.  

Rhagor o weithredu

Wedi marwolaeth ei mab, mae Belinda Dowling o Portsmouth bellach yn galw am ragor o weithredu, er mwyn tynnu sylw at ddifrifoldeb y cyflwr. Mae'n dadlau nad oes "digon o ymwybyddiaeth am asthma." 

Yn ôl elusen Asthma and Lung UK, "bach iawn sydd wedi ei gyflawni" mewn degawd ers i adroddiad arwyddocaol gael ei gyhoeddi ym maes asthma.

Roedd y ddogfen honno yn nodi bod modd atal mwyafrif y marwolaethau yn sgil asthma, gan gynnig camau y dylid eu gweithredu er mwyn atal rhagor o farwolaethau. 

'Syfrdanol' 

Yn ôl yr elusen, mae mwy na 12,000 o bobl yn Y Deyrnas Unedig wedi marw ar ôl cael pwl gwael o asthma ers i'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi.  

Mae'n ychwanegu ei bod yn "syfrdanol bod cyn lleied wedi newid." 

Roedd Warren yn un o saith o blant.

“Maen nhw'n dweud y gall eich bywyd newid mewn eiliad, a doedden ni ddim yn ystyried pa mor wir oedd hynny," meddai ei fam Belinda Dowling.

“Roedd Warren gam amlaf yn ymdopi â'i asthma, ond unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, byddai'n cael pwl gwael, a byddai angen iddo fynd i ysbyty, ac roedd hynny yn brofiad dychrynllyd. "  

“Ar un noson fis Mawrth y llynedd, ar ôl bod yn hollol iawn yn yr ysgol gydol y dydd, cyn chwarae yn hapus gyda'i frawd bach Cameron ar y trampolîn, dywedodd wrthai ei fod angen ei bwmp. Doedd y teclyn ddim yn gweithio a dechreuodd fynd i banig. Yna tra roeddwn i ar y ffôn yn galw am ambiwlans, fe drodd yn las a stopio anadlu.  

“Ceisiodd ei dad ei adfywio gyda CPR hyd nes i'r ambiwlans gyrraedd a'i gludo i 'r ysbyty, ond doedd dim oll y gellid ei wneud i'w achub.  

“Gofynnodd ei frawd Cameron sy'n saith oed wrthai yn ddiweddar, pam nad oedd Warren wedi dychwelyd ato i chwarae ar y trampolîn, ar ôl addo y byddai'n gwneud hynny.  

“Ni fu erioed ddigon o ymwybyddiaeth am beryglon asthma,"  meddai Mrs Dowling.

"Rydw i eisiau i bawb wybod pa mor beryglus yw'r cyflwr, a 'dw i ddim am i neb arall brofi ein hunllef ni. 

"Rwy'n gwybod y byddai Warren yn hapus iawn petai ei stori e yn helpu eraill." 

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi cyhoeddi dau gynllun gweithredu cenedlaethol yn y ddegawd ddiwethaf. Mae'r rhain yn golygu bod byrddau iechyd yn gallu cynllunio a gwella ansawdd a chysondeb y gofal iechyd sydd yn cael ei gynnig i gleifion gyda chyflyrau resbiradol. 

Yn ogystal maent yn dweud bod nifer y cleifion sydd wedi eu trin mewn brys ar gyfer asthma yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers 2014-15. 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.