Bywyd mam 'wedi ei ddinistrio' ar ôl ymosodiad gan gi
Mae mam o Abertawe a gafodd anafiadau difrifol ar ôl i gi bach ymosod arni wedi dweud bod ei 'bywyd a'i hunan-hyder wedi cael eu dinistrio'.
Roedd Kelly Allen, 45, mewn tŷ ffrind fis diwethaf pan y gwnaeth y ci "cyfeillgar iawn" newid ei ymddygiad yn sydyn wedi iddo ymosod arni a gafael ymlaen i'w hwyneb.
Gwrthododd y ci i adael fynd tan yr oedd wedi rhwygo rhan fawr o foch Ms Allen, gan ei gadael gyda chlwyf agored a fyddai'n golygu gorfod cael llawdriniaeth pum awr a hanner.
Fe gafodd y dachshund ei gymryd gan yr heddlu a'i ddifa yn ddiweddarach.
Mae Ms Allen yn ceisio iawndal ar ôl dod i wybod fod y ci eisoes wedi ymosod ar ddau o bobl eraill yn honedig.
Mae'r profiad yn dal i effeithio arni, a dywedodd nad yw'n gallu dychwelyd i'r gwaith yn sgil y trawma a'i hymddangosiad.
"Dwi methu codi allan o'r gwely, a dwi wedi bod yn crio fy hun i gysgu oherwydd fy mod i'n teimlo ei ddannedd ynof i," meddai.
"Mae gen i graith ofnadwy ar fy moch. Mae wedi dinistrio fy mywyd oherwydd ni fydd fyth yr un peth bellach.
"Dwi'n fam sengl a dwi methu fforddio talu am drydan a nwy y mwyafrif o'r wythnosau - mae popeth yn teimlo mor annheg."
Mae Ms Allen yn cofio gweiddi sawl gwaith ar y ci i "adael fynd" wrth i waed ddechrau llifo lawr ei hwyneb.
Derbyniodd gyfanswm o 40 o bwythau, ac mae'r profiad wedi effeithio ar ei hyder a'i hiechyd meddwl.
"Mae fy hunan-hyder wedi cael ei ddinistrio a dwi ddim yn mynd allan bellach.
"Oni bai am fy ffrindiau a fy nheulu, dwi ddim yn gwybod lle fyddwn i.
"Dwi methu canolbwyntio a dwi ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd."