Huw Edwards yn gadael y BBC 'ar gyngor meddygol'
Huw Edwards yn gadael y BBC 'ar gyngor meddygol'
Mae'r cyflwynydd Huw Edwards wedi gadael y BBC 'ar gyngor meddygol'.
Fe gafodd Mr Edwards ei wahardd gan y gorfforaeth ym mis Gorffennaf 2023.
Roedd papur newydd The Sun wedi adrodd ar y pryd fod cyflwynydd amlwg wedi talu person ifanc am luniau o natur rywiol.
Cafodd enw Mr Edwards ei ddatgelu gan ei wraig Vicky Flind fel y cyflwynydd dan sylw, gan ddweud ei fod yn derbyn triniaeth mewn ysbyty.
Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y gyfraith wedi ei thorri.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y gorfforaeth: "Mae Huw Edwards wedi ymddiswyddo heddiw ac wedi gadael y BBC.
"Wedi 40 mlynedd o wasanaeth, mae Huw wedi esbonio bod ei benderfyniad yn seiliedig ar gyngor meddygol gan ei feddygon.
" Mae'r BBC wedi derbyn ei ymddiswyddiad, a'r gred yw y bydd hynny yn caniatáu i bob ochr symud ymlaen.
"Nid ydym yn credu y byddai'n briodol i ni wneud sylw pellach."
Mr Edwards oedd y cyflwynydd newyddion oedd yn cael ei dalu fwyaf yn y gorfforaeth, gan dderbyn rhwng £435,000-£439,999 yn y flwyddyn 2022/23.
Fe gyflwynodd Mr Edwards raglen Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Elizabeth yn 2012, y Jiwbilî Platinwm yn 2022 yn ogystal â phriodas Tywysog a Thywysoges Cymru yn 2011 a phriodas Dug a Duges Sussex yn 2018.
Cyhoeddodd farwolaeth y Frenhines Elizabeth II ar y BBC, ac fe gyflwynodd ddarllediad y gorfforaeth o goroni'r Brenin Charles y llynedd.