Newyddion S4C

Y prifathro Neil Foden yn y llys ar gyfer ei achos camdriniaeth rywiol o blant

22/04/2024
Neil Foden

Mae prifathro o Hen Golwyn yn y llys ar gyfer dechrau'r achos yn ei erbyn am gamdriniaeth rywiol honedig o blant.

Mae Neil Foden, 66 oed, o Hen Golwyn yn wynebu cyhuddiadau sydd yn cynnwys camdriniaeth rywiol honedig o blant, a bod â lluniau anweddus o blentyn yn ei feddiant.

Mae wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Fe wnaeth gyrraedd Llys y Goron Yr Wyddgrug cyn dechrau'r achos ddydd Llun yn gwisgo siaced las, trowsus du ac esgidiau glas.

Mae'n gwadu 20 cyhuddiad i gyd, sydd yn cynnwys gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn, ymosod yn rhywiol ar blentyn, annog gweithgarwch rhywiol â phlentyn, bod â lluniau a fideos anweddus o blentyn yn ei feddiant, cyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn, a cheisio trefnu trosedd o natur rywiol.

Mae disgwyl i'r achos ddechrau'n ddiweddarach dydd Llun ac mae disgwyl i'r achos llys bara am gyfnod o dair wythnos.

Llun gan Andrew Price

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.