Newyddion S4C

Car wedi ei yrru drwy wal ddosbarth i mewn i ysgol gynradd

22/04/2024
car ysgol Lerpwl PA

Mae car wedi gyrru drwy wal ysgol gynradd fore dydd Llun.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gynradd The Beacon yn Everton, Lerpwl, am tua 08.30 yn dilyn adroddiadau fod gwrthdrawiad wedi digwydd.

Mae'n ymddangos bod Mercedes gwyn wedi mynd trwy wal yr ysgol, yn Stryd Heyworth.

Fe ddaeth y cerbyd i stop y tu mewn i'r ystafell ddosbarth.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Glannau Mersi nad oedd unrhyw blant yn bresennol yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad, a ddigwyddodd ychydig cyn i'r ysgol agor am y dydd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Mae gyrrwr benywaidd y car wedi cael ei hasesu yn y fan a’r lle. Cafodd teithiwr yn y car fân anaf.”

Nid oedd unrhyw adroddiadau am anafiadau eraill.

Mae’r ysgol ar gau am y dydd ac mae disgwyl i’r adeilad gael ei asesu am ddifrod strwythurol, meddai’r heddlu.

Cafodd ffyrdd yn yr ardal eu cau ac mae nifer o blismyn yn y lleoliad.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.