
Achub plentyn o'r creigiau ar draeth yng Ngwynedd
Mae’r gwasanaethau brys a gwylwyr y glannau wedi achub plentyn aeth yn sownd yn y creigiau ar draeth yng Ngwynedd.
Fe aeth y plentyn ifanc yn sownd tra roedd yn chwarae ar y creigiau ar draeth Tywyn.
Yn dilyn ymgyrch achub ar y cyd gan Wasanaeth tân y Gogledd; y Gwasanaeth Ambiwlans a’r Ambiwlans Awyr; swyddogion Heddlu’r Gogledd; Gwylwyr y Glannau Aberdyfi a Gwylwyr y Glannau Abermaw, fe gafodd y plentyn ei achub.
Roedd yr ymgais i achub y plentyn yn gorfod cael ei wneud yn "ofalus" gan ddefnyddio peiriannau arbennig. Roeddent hefyd yn gweithio yn erbyn y llanw.
Mae’r plentyn bellach yn ddiogel ac yn iach.
Mae Gwylwyr y Glannau yn annog unigolion i gymryd gofal wrth ddringo creigiau, gan atgoffa pobl o’r peryglon.
