Newyddion S4C

Jeremy Miles: Byddwn i 'ddim wedi derbyn' rhodd £200,000

21/04/2024

Jeremy Miles: Byddwn i 'ddim wedi derbyn' rhodd £200,000

Mae Jeremy Miles, ymgeisydd yn y ras arweinyddol Llafur Cymru, wedi dweud na fyddai wedi derbyn rhodd o £200,000 cafodd Vaughan Gething  gan ddyn sydd wedi ei ddyfarnu’n euog am droseddau amgylcheddol.

Fe enillodd Mr Gething pleidlais i fod yn arweinydd y blaid fis diwethaf, cyn cael ei ethol yn Brif Weinidog newydd, gan olynu Mark Drakeford.

Llwyddodd i ennill y bleidlais gyda mwyafrif bach iawn yn erbyn Mr Miles, gydag 51.7% o bleidleisiau o’i blaid, a 48.7% o blaid Mr Miles.

Ond yn ystod y ras, roedd beirniadaeth ynglŷn â rhoddion i ymgyrch Mr Gething, wedi iddo dderbyn £200,000 gan gwmni Dauson Environmental Group, sy'n cael ei redeg gan David Neal, a gafodd ei ddyfarnu'n euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae Mr Gething wedi dweud sawl tro nad oedd wedi gwneud unrhyw beth yr oedd “tu allan i reolau” drwy dderbyn y rhodd, ac wedi gwrthod dychwelyd yr arian.

Ond wrth drafod y rhodd ar raglen Politics Wales fore Sul, dywedodd Mr Miles ei fod wedi ystyried codi’r mater ar y pryd, cyn penderfynu yn erbyn gwneud.

Dywedodd: “Mae cwestiynau dros roddion yn rai i ymgeiswyr unigol, sydd yn cymryd y rhoddion rheini. Dyw e ddim yn rhywbeth sydd yn gyfrifoldeb i’r cabinet. Mae hynny i’r unigolyn.

“Roeddwn i’n hapus gyda ‘r rhoddion wnes i dderbyn, fyddwn i ddim wedi derbyn y rhodd honno, ond cwestiwn i rywun arall yw hwnnw.

“Mi wnes i ystyried codi’r mater yn yr ymgyrch, i fod yn gwbl onest, ond nes i hefyd feddwl os mai chi yw’r ymgeisydd sydd yn codi materion ynglŷn â phroses etholiadol yn gyson, mae’n cymryd sylw oddi ar y brif neges oedd gennyf, sef y weledigaeth bositif sydd gennyf am ddyfodol ein gwlad, ac roeddwn i eisiau canolbwyntio’n fanwl ar hynny.”

Ar ôl ei ymgyrch aflwyddiannus, cafodd Mr Miles ei benodi’n Weinidog yr Economi, Ynni a’r Gymraeg yn y cabinet.

Ychwanegodd: “Wedi ymgyrchu mor galed ac wedi esbonio mewn ffordd o’n i’n hapus iawn gydag e, yr uchelgais sydd gyda fi dros fy nghenedl ar gyfer y dyfodol, wrth gwrs roedd e’n siom i beidio ennill.

“Ond roeddwn i wedi dod’i economi fel fy mhrif flaenoriaeth, yn fy maniffesto, felly oedd y cyfle i fod yn Weinidog ar yr Economi yn sgil hynny yn un pwysig i’w gymryd.”

Galw am ymchwiliad

Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Andrew Goodall, yn galw am ymchwiliad annibynnol i’r mater.

Mae ei lythyr yn codi “pryderon difrifol” dros “dryloywder a chywirdeb” y rhoddion, gan ddweud bod y cwmni Dauson Environmental Group mewn dyled i Banc Datblygu Cymru, sydd yn eiddo i Lywodraeth Cymru.

Image
Rhun ap Iorwerth

Mae Mr ap Iorwerth yn honni bod derbyn rhoddion o’r math yn enghraifft o “gwrthdaro buddiannau posibl”.

Yn y llythyr, dywedodd Mr ap Iorwerth: “Rwy'n ysgrifennu am y cwestiynau parhaus a difrifol sydd heb eu hateb ynghylch rhoddion i ymgyrch y Prif Weinidog i ddod yn arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru.

“Mae'n amlwg bod y mater hwn bellach wedi mynd y tu hwnt i roddion i Aelodau'r Senedd. Mae'n mynd at galon gweithrediadau'r llywodraeth, a'r berthynas rhwng Gweinidogion ac unigolion preifat.

“Nid oes gennyf fawr o hyder y bydd Mr Gething yn ymchwilio i'w ymddygiad ei hun o dan y Cod Gweinidogol.

“Er bod y Cod yn dweud nad rôl yr Ysgrifennydd Parhaol na swyddogion eraill yw gweithredu'r Cod, credaf fod hwn yn fater o'r difrifoldeb mwyaf ac yn un lle byddai'n gwbl annerbyniol i'r Prif Weinidog weithredu fel barnwr a rheithgor ar ei ymddygiad ei hun.

“Gofynnaf felly i chi gomisiynu ymchwiliad allanol cwbl annibynnol i'r mater hwn, ac i'w ganfyddiadau gael eu cyhoeddi'n gyfan gwbl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.