Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Crasfa i Gymru yn erbyn Ffrainc

21/04/2024
Cymru v Ffrainc

Mae Cymru wedi colli 40-0 yn erbyn Ffrainc ddydd Sul, eu pumed colled ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Roedd hi'n grasfa ym Mharc yr Arfau wrth i Ffrainc barhau i roi pwysau ar Loegr, sydd ar frig y tabl.

Fe fydd Cymru yn wynebu'r Eidal yn y Stadiwm yn Principality yn eu gêm olaf wythnos nesaf, mewn ymgais i geisio osgoi'r llwy bren.

Dechreuodd yr ornest gydag asgellwr Ffrainc, Anne-Cecile Ciofani, yn derbyn carden felen am dacl uchel.

Ond nid oedd Cymru yn gallu cymryd mantais wrth i Annaelle Deshayes sgorio cais cyntaf y gêm.

Fe ddaeth yr ail ychydig wedyn wrth i Joanna Grisez rhyng-gipio'r bêl a rhedeg hyd y cae i sgorio dan y pyst.

Fe ddaeth trydydd cais Ffrainc cyn hanner amser drwy Romane Menager, a her fawr yn wynebu Cymru yn yr ail hanner.

Ond fe wnaeth y ceisiau parhau i lifo i'r tîm oddi cartref a hynny trwy Gabrielle Vernier.

Sgoriodd capten Ffrainc Manaé Fele ychydig wedyn a gyda dwy funud yn weddill fe sgoriodd Grisez ei hail ryng-gipiad o'r gêm.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.