Newyddion S4C

'Un o'r asgellwyr gorau': Teyrngedau'r byd pêl-droed i Leighton James

20/04/2024
Leighton James

Mae'r byd pêl-droed wedi rhoi teyrngedau i gyn-asgellwr Cymru a'r Elyrch, Leighton James.

Bu farw ddydd Gwener 71 oed.

Roedd yn flaenllaw yn chwarae fel asgellwr ac fe enillodd 54 o gapiau dros Gymru, gan sgorio 10 gôl.

Cafodd ei fagu yng Nghasllwchwr, Abertawe, ac fe chwaraeodd dros glybiau Dinas Abertawe, Casnewydd a Burnley.

Fe chwaraeodd dros 600 o gemau yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr.

Dywedodd John Toshack, oedd yn chwaraewr a rheolwr Abertawe tra oedd James yn chwarae yno, mai fe oedd un o'r asgellwyr gorau o Brydain.

"Mae'r safle asgellwr y dyddiau hyn yn frid sydd yn marw o fewn pêl-droed ond roedd Leighton James yn un o'r asgellwyr gorau y mae pêl-droed Prydain erioed wedi'i gynhyrchu ac roedden ni'n ffodus iawn ei fod yn Gymro."

Roedd Jason Mohammad wedi cael y fraint o weithio gyda Leighton James, a gyda Mohammad yn gefnogwr Caerdydd a James Abertawe, roedd y ddau yn dadlau yn aml.

"Ymhell cyn fy amser yn cyflwyno Final Score ar y rhwydwaith, byddai Leighton James a minnau yn chwerthin trwy gydol rhaglen Wales on Saturday ar BBC Cymru.

"Cawsom ein cyfran deg o ddadlau am Gaerdydd ac Abertawe, ond roeddwn i'n edmygu ei sylwebaeth a'i hwyl."

Rhan o 'dîm gwych'

Mae cyn-ymosodwr Cymru John Hartson yn cofio gwylio James yn chwarae ar gae'r Vetch yn Abertawe

"Cwsg mewn hedd Leighton James..am chwaraewr, cofio ei wylio ar Gae'r Vetch yn nhîm gwych Abertawe o dan Tosh.

"Mae fy meddyliau gyda'r teulu James ar yr adeg drist yma."

Chwaraeodd James dros 300 o gemau i Burnley yn ystod ei yrfa.

Dywedodd y strategydd gwleidyddol ac awdur, Alastair Campbell, sydd yn cefnogi'r Clarets, ei fod yn arwr iddo

"Maen nhw'n dweud na ddylech chi byth gwrdd â'ch arwyr. Ond cwrddais â fy un i lawer o weithiau ac fe ddaeth yn ffrind da.

"Roedd Leighton James yn bêl-droediwr gwych, efallai’r chwaraewr gorau erioed i Burnley. 

"Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn sâl ond yn dal yn sioc enfawr i gael y newyddion ei fod wedi marw."

'Un o'r goreuon'

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei fod yn "ddewin" ar yr asgell.

"Ymhlith ei eiliadau enwocaf gyda’r ddraig ar ei grys roedd sgorio cic gosb mewn buddugoliaeth enwog dros Loegr yn Wembley yn 1977.

"Roedd yn seren o’r unig dîm o Gymru i fod ar frig y grŵp rhagbrofol cyn mynd ymlaen i gyrraedd rownd yr wyth olaf yn Ewro 1976.

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau ar yr adeg drist hon.

"Dewin. Un o'r goreuon ac un o ser tim 1976. Newyddion trist iawn."

Dywedodd Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe: "Mae Abertawe yn drist iawn o glywed am farwolaeth Leighton James yn 71 oed.

"Roedd yr asgellwr dawnus, sy’n cael ei ystyried yn eang fel un o chwaraewyr gorau’r Elyrch, yn ffigwr allweddol yn y tîm a sicrhaodd ddyrchafiad cyntaf erioed i’r brig yn 1981, gan sgorio gôl syfrdanol yn y fuddugoliaeth dros Preston North End yn Deepdale i gwblhau codiad y clwb."

Llun: Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.