Newyddion S4C

Angen i Aaron Ramsey 'beidio meddwl am chwarae i Gymru dros yr haf'

20/04/2024
Ramsey

Mae rheolwr CPD Dinas Caerdydd, Erol Bulut wedi dweud bod angen i Aaron Ramsey beidio meddwl am chwarae i Gymru dros yr haf.

Fe fydd Cymru yn herio Slofacia ym mis Mehefin ac mae'n debyg bydd ganddynt un gêm gyfeillgar arall yn ogystal.

Nid yw Ramsey, capten Gymru, wedi chwarae llawer y tymor hwn oherwydd anafiadau.

13 o ymddangosiadau yn unig mae wedi gwneud yn ystod y tymor, gyda nifer o rheiny oddi ar y fainc.

Ac yn dilyn ei anaf diweddaraf, mae ei dymor ar ben yn ôl Bulut, sydd yn dweud bod angen iddo ffocysu ar gyfer bod yn holliach i'r tymor newydd.

"Roedd ganddo straen gradd dau sy'n golygu nad yw'n gallu chwarae am leiafswm o dair wythnos, sy'n golygu bod y tymor ar ben iddo," meddai Bulut. 

"Dwi'n meddwl iddo fe, mae'n rhaid i ni fod yn onest, fe gafodd anaf, fe ddaeth yn ôl a chael anaf arall a nawr mae angen iddo weithio tuag at fod yn holliach.

"Rwy'n meddwl bod angen iddo baratoi ei hun ar gyfer y tymor newydd a pheidio â meddwl am y tîm cenedlaethol. 

"Iechyd sydd bwysicaf i chwaraewr pêl-droed, felly mae angen iddo ganolbwyntio ar ddod yn ffit a dechrau'r tymor newydd yn dda gyda Chaerdydd.

"Mae wedi bod i ffwrdd am amser hir. Ers amser maith, nid yw llawer o'n prif chwaraewyr wedi bod gyda ni. 

"Rydym mewn rhediad da yna rydym yn cael anafiadau. Nid yw'n hawdd cael chwaraewyr newydd yn eu lle."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.