Newyddion S4C

Trigolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn 'nofio mewn sbwriel'

19/04/2024
Sbwriel

Mae rhai o drigolion Castell-nedd Port Talbot wedi dweud eu bod nhw'n “nofio mewn sbwriel” wedi iddyn nhw orfod disgwyl cyfnod o fis cyn i’w gwastraff ailgylchu cael eu casglu. 

Mae aelwydydd ar Stryd Richmond yng Nghastell-nedd wedi dweud mai pobl sy’n parcio “heb feddwl” sydd wrth wraidd y broblem gan nad yw cerbydau'r cyngor yn medru cyrraedd eu tai er mwyn casglu’r sbwriel. 

Nad oedd gwastraff ailgylchu preswylwyr yno wedi cael eu casglu am gyfnod o dros bedair wythnos yn ddiweddar, gan arwain at domenni o sbwriel ar hyd y stryd. 

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot bellach wedi dweud bod y sbwriel wedi cael ei gasglu, ond mae rhai trigolion yn parhau i deimlo’n rhwystredig gyda’r sefyllfa. 

Un sydd wedi mynegi rhwystredigaeth o’r fath ydy Charlotte Mcnaught, sydd wedi byw ar y stryd gyda’i phlant am dros saith blynedd, a hithau wedi dweud bod y broblem wedi bodoli ers blynyddoedd. 

“Mae'r broblem yma wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen ers blynyddoedd ond dyma'r gwaethaf mae wedi bod, wedi i ni orfod disgwyl am bedair wythnos heb i’r gwastraff ailgylchu cael eu casglu," meddai.

“’Dyn ni jyst yn nofio mewn sbwriel pan mae’n cyrraedd y pwynt hwnnw. 

“Mae'r tu allan yn llawn, mae’r tu mewn yn llawn, a does dim modd i ni gerdded ar y palmentydd,” meddai. 

'Pryderus'

Dywedodd James Jones, sydd hefyd yn byw ar Stryd Richmond, ei fod yn bryderus y byddai’r sbwriel yn denu llygod mawr i’r ardal. 

Mae’n galw hefyd i linellau dwbl melyn gael eu gosod yn y stryd er mwyn mynd i’r afael â’r problemau parcio. 

“Er tegwch i’r rheiny sy’n casglu’r sbwriel, maen nhw’n arbennig, a dydy e ddim eu bai nhw os nad ydan nhw’n gallu mynd i’r stryd,” meddai. 

Mewn ymateb i’r sefyllfa, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Rydym yn rhannu rhwystredigaeth trigolion Stryd Richmond gan nad yw ein cerbydau casglu wedi gallu cael mynediad yn ddiweddar oherwydd parcio amhriodol.

“Fodd bynnag rydym bellach wedi llwyddo i gasglu gwastraff o’r stryd. Rydym yn apelio ar fodurwyr i fod yn ystyriol wrth barcio ar y stryd, yn enwedig ar ddiwrnodau casglu sbwriel ailgylchu.

“Os ydyn ni’n profi problemau yn cael mynediad i strydoedd rydym yn ceisio ail-ymweld a’r ardal ar ddiwedd ein sifftiau er mwyn casglu’r sbwriel, ond mae hyn yn dal yn ddibynnol ar bobl yn parcio’n ystyriol."

Dywedodd hefyd bod ei gerbydau yn “drwm ac yn llydan” felly mae angen i’w gyrwyr fod yn sicr y gallant deithio’n ddiogel ar hyd y stryd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.