Tâl atal tagfeydd traffig: Ystyried codi pris am ddefnyddio ffyrdd Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd yn anelu at wneud penderfyniad terfynol ar gyflwyno tâl er mwyn atal tagfeydd traffig yn y brifddinas erbyn 2026.
Dywedodd y cyngor eu bod nhw’n trafod gyda Llywodraeth Cymru sut i ariannu’r newid cyn agor ymgynghoriad â’r cyhoedd.
Byddai yn cymryd dwy neu dair blynedd i ddechrau codi pris am ddefnyddio ffyrdd Caerdydd ar ôl gwneud y penderfyniad, medden nhw.
Mae Llundain, Bath, Birmingham, Portsmouth, Rhydychen, Bryste, Sheffield, Newcastle a Bradford eisoes wedi cyflwyno ryw fath o dâl neu barthau aer glan.
Mae rhagor ar fin cael eu cyflwyno mewn dinasoedd eraill gan gynnwys Glasgow a Chaeredin hefyd.
“Mae’r gwaith yn dal i fynd rhagddo i ymchwilio i’r manteision lluosog posibl y gallai taliad defnyddiwr ffordd eu cynnigi i’r ddinas,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.
“Byddai yn gwneud Caerdydd yn ddinas lanach, wyrddach ac iachach.”
Roedd y manteision yn cynnwys, medden nhw:
- Gwelliannau i ansawdd aer a fyddai o fudd i iechyd
- Gostyngiad mewn tagfeydd
- Codi arian i dalu am welliannau mawr sydd eu hangen i drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys bysiau, rheilffyrdd, cerdded, a llwybrau beicio diogel ar wahân
“Mae gwaith ymgynghori cynnar wedi digwydd gyda grwpiau rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys busnes a phartïon eraill sydd â diddordeb ac mae adborth o hyn yn cael ei asesu ar hyn o bryd,” meddai’r cyngor.
“Mae’r cyngor hefyd yn siarad â Llywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer cam nesaf y cynnig sef cwblhau achos busnes llawn ar opsiynau posib cyn symud i ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar yr opsiynau hynny.”
Llun gan Jeremy Sergott dan drwydded Comin Creadigol 2.0.