Newyddion S4C

Taflegryn o Israel wedi taro Iran, yn ôl adroddiadau

19/04/2024
Baner Iran

Mae taflegryn o Israel wedi taro Iran, yn ôl adroddiadau.

Dywedodd dau swyddog o'r Unol Daleithiau wrth wasnaeth newyddion CBS bod taflegryn o Israel wedi taro Iran, a hynny yn dilyn adroddiadau heb eu cadarnhau yn y wlad o ffrwydradau yn nhalaith ganolog Isfahan.

Mae hediadau wedi’u hatal dros sawl dinas, meddai cyfryngau’r wladwriaeth.

Mae darlledwr cenedlaethol Iran, IRIB, wedi gwadu adroddiadau o ymosodiad, gan ddweud bod Isfahan yn “ddiogel.”

Ysgrifennodd swyddog asiantaeth ofod Iran, Hossein Dalirian, ar X: “Ni fu unrhyw ymosodiad awyr o’r tu allan i ffiniau i Isfahan na rhannau eraill o’r wlad.”

Dywedodd fod Israel "dim ond wedi gwneud ymgais aflwyddiannus i hedfan dronau a bod y nhw hefyd wedi cael eu saethu i lawr."

Mae cyfryngau'r wladwriaeth yn Iran wedi adrodd yn yr un modd, gan ddweud bod systemau amddiffyn awyr wedi’u rhoi ar waith mewn sawl rhan o’r wlad dros nos yn erbyn targedau posibl, ond ni chafwyd adroddiadau am unrhyw effaith uniongyrchol na ffrwydrad.

Mae'n ychwanegu bod yr holl gyfleusterau, gan gynnwys cyfleusterau niwclear, yn ddiogel.

Mae'r wlad wedi bod yn wyliadwrus iawn ar ôl i Israel ddweud y byddai'n ymateb i daflegrau Iran a dronau a daniwyd at Israel nos Sadwrn.

Cafodd mwy na 300 o dronau a thaflegrau eu tanio at Israel gan Iran, y tro cyntaf i’r wlad Islamaidd dargedu Israel yn uniongyrchol o’i thiriogaeth ei hun.

Llun: Atta Kenare / Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.