Newyddion S4C

GIG: Cynnydd mewn rhestrau aros yn ‘siomedig’ meddai Ysgrifennydd Iechyd

18/04/2024

GIG: Cynnydd mewn rhestrau aros yn ‘siomedig’ meddai Ysgrifennydd Iechyd

Mae’n “siomedig” bod rhestrau aros ar gyfer triniaeth ysbyty yng Nghymru wedi mynd yn hirach unwaith eto yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd.

Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd ddydd Iau roedd tua 591,600 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru ym mis Chwefror, pan oedd ychydig dros 763,100 o lwybrau cleifion ar agor. Dyma’r ffigwr uchaf ar gofnod.

Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros flwyddyn hefyd wedi cynyddu’n raddol yn ystod y misoedd diwethaf, meddai’r GIG.

Mae mae mwy o gleifion canser yn aros yn hirach i ddechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ogystal.

Wrth ymateb fe awgrymodd Eluned Morgan bod streiciau meddygon iau ym mis Chwefror wedi chwarae rhan yn y rhestrau aros hirach.

“Ym mis Chwefror, cafodd mwy na 14,000 o bobl y newyddion da nad oes ganddynt ganser,” meddai.

“Ond ym maes canser yn gyffredinol, rwy'n siomedig iawn bod perfformiad wedi gostwng yn erbyn y targed y mis hwn.

“Mae’n siomedig hefyd gweld bod y rhestr aros gyffredinol wedi cynyddu o ran maint ar ôl tair cwymp yn olynol, ond nid yw hyn yn syndod o ystyried y streic ym mis Chwefror.”

Ychwanegodd ei bod yn “siomedig i weld bod cynnydd wedi bod yn yr arosiadau hir mewn adrannau achosion brys”. 

“Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd ganolbwyntio o'r newydd ar leihau arosiadau hir mewn adrannau achosion brys, yn enwedig ar gyfer pobl eiddil ac oedrannus.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor bod y GIG yng Nghymru yn mynd am yn ôl “ar bob mesur”.

“Cafodd Llafur gyfle i bwyso’r botwm ailosod drwy ddewis Prif Weinidog a Chabinet newydd, ond fe benderfynon nhw fynd am fwy o’r un peth,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.