Newyddion S4C

Arestio gweithiwr i'r Swyddfa Gartref am geisio gwerthu yr hawl i weithio yn y DU i geisiwr lloches

18/04/2024
swyddfa gartref.png

Mae gweithiwr i'r Swyddfa Gartref wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio gwerthu yr hawl i fyw yn y DU dros dro i geisiwr lloches.

Mae'r swyddog dan amheuaeth o gysylltu gyda dyn bregus gan ofyn am £2,000 er mwyn cymeradwyo ei gais am loches. 

Cadarnhaodd y Swyddfa Gartref bod yr aelod o staff wedi cael ei wahardd.

Ychwanegodd eu bod yn disgwyl "y safonau uchaf" gan staff, ond y byddai'n "amhriodol" i wneud sylwad pellach gan fod ymchwiliad yr heddlu yn un byw.

Dywedodd gweinidog cysgodol Mewnfudo Llafur, Stephen Kinnock, fod yr honiadau "yn hynod o bryderus" a bod y Ceidwadwyr "wedi colli rheolaeth" o'r system ceiswyr lloches. 

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Sir Gaerhirfryn: "Gallwn gadarnhau fod dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gamymddygiad wrth ddal swydd gyhoeddus, amheuaeth o brosesu arian yn anghyfreithlon a llwgrwobrwyo.

"Fe wnaeth swyddogion o'r llu yn ogystal â phartneriaid o'r Swyddfa Gartref arestio dyn yn ei 30au o ardal Ramsgreave yn Blackburn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.