Rhybudd i 'beidio bwyta' hufen iâ poblogaidd
Mae rhybudd "peidio bwyta" wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhai pecynnau o hufen iâ poblogaidd Magnum.
Mae Unilever wedi cyhoeddi galwad i ddychwelyd rhai o becynnau hufen iâ cnau almon Magnum, a hynny oherwydd presenoldeb plastig a metel mewn tri o'r pecynnau.
Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw'n ddiogel i'w bwyta.
Mae cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn nodi: "Mae Unilever yn adalw'r cynnyrch yma.
"Fe fydd eglurhad yn cael ei roi ymhob siop sy'n gwerthu'r cynnyrch er mwyn egluro i gwsmeriaid pam y mae'n cael ei adalw a dweud wrthyn nhw beth i'w wneud os ydyn nhw wedi ei brynu."
Pwysleisiodd y rhybudd mai dim ond nifer cyfyngedig o gynnyrch yn y DU ac Iwerddon sydd wedi ei effeithio.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y cynnyrch sydd a'r codiau L3338, L3339, L3340, L3341 a L3342 arnynt.
Dylai unrhyw un sydd â phryderon ffonio cwmni Unilever ar 0800146252 neu ebostio ukicare@unilever.com, meddai'r cwmni.