
Tad a phlentyn yn dod o hyd i esgyrn ‘o bosib yr ymlusgiad mwyaf erioed’ ar draeth
Daeth tad a phlentyn o hyd i esgyrn “o bosib yr ymlusgiad mwyaf erioed” ar draeth meddai gwyddonwyr.
Mae arbenigwyr yn tybio fod yr esgyrn yn perthyn i fath newydd o ichthyosaur - ymlusgiad (reptile) enfawr a fu unwaith i'w cael yn y moroedd.
Mae wedi ei enwi yn Ichthyotitan severnensis – madfall pysgod yr Hafren.
Maen nhw’n amcangyfrif y byddai'r creadur tua 26 metr o hyd, a fyddai yn golygu mai dyma'r ymlusgiad morol mwyaf ar gofnod.
Daeth Justin a Ruby Reynolds, a oedd yn 11 oed ar y pryd, o Braunton, Dyfnaint, o hyd i’r asgwrn mwyaf ym mis Mai 2010.
Roedd Paul de la Salle wedi dod o hyd i asgwrn yn perthyn i’r un creadur, ond un llai o faint, ym mis Mai 2016 ymhellach ar hyd yr arfordir.
Dywedodd Justin Reynolds: “Pan ddaeth Ruby a minnau o hyd i’r ddau ddarn cyntaf roedden ni’n gyffrous iawn wrth i ni sylweddoli bod hwn yn rhywbeth pwysig ac anarferol.
“Pan wnes i ddod o hyd i ran o gefn yr ên, roeddwn i wrth fy modd oherwydd dyna un o'r rhannau o ddarganfyddiad cynharach Paul.”

'Balch iawn'
Ychwanegodd Ruby Reynolds: “Roedd mor cŵl darganfod rhan o’r ichthyosor enfawr hwn.
“Rwy’n falch iawn o fod wedi chwarae rhan mewn darganfyddiad gwyddonol fel hwn.”
Ers hynny mae ymchwilwyr wedi dod o hyd i ragor o ddarnau o’r creadur gan awgrymu y byddai tua’r un maint â Morfil Glas.
Mae’r esgyrn yn dyddio i 202 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Triasig.
Cyhoeddir yr ymchwil newydd yn y cyfnodolyn Plos One.
Llun: O'r chwith i'r dde: Dr Dean Lomax, Ruby Reynolds, Justin Reynolds and Paul de la Salle.