Newyddion S4C

Dyn 19 oed yn parhau mewn cyflwr 'difrifol' ar ôl disgyn o lety preswyl prifysgol

18/04/2024
Llety preswyl

Mae dyn 19 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi iddo ddisgyn o ffenestr ar chweched llawr un o lety preswyl Prifysgol Abertawe. 

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar gampws Singleton yn ystod oriau mân fore Sul yn dilyn adroddiadau bod person wedi’i anafu ar ôl disgyn o uchder.

Cafodd dyn ifanc ei gludo i’r ysbyty wedi’r digwyddiad ac mae’n parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr “difrifol ond sefydlog,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru fod swyddogion wedi cael eu galw i Gampws Singleton ym Mhrifysgol Aberatwe yn oriau mân ddydd Sul wedi adroddiadau fod dyn wedi disgyn o ffenestr ar y chweched llawr.

Fe gafodd y dyn 19 oed ei gludo i'r ysbyty lle mae'n parhau mewn cyflwr critigol ond sefydlog. 

Ychwanegodd y llu fod ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe fod ymchwiliadau'r heddlu'n parhau a'i fod yn cynorthwyo'r llu gyda'r ymchwiliad. 

"Ni fydd hi'n briodol i roi sylw pellach ar hyn o bryd," ychwanegodd y brifysgol mewn datganiad. 

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.