Newyddion S4C

Hanner disgyblion Trebiwt heb gael cynnig lle i'w dewis cyntaf o ysgol uwchradd

17/04/2024

Hanner disgyblion Trebiwt heb gael cynnig lle i'w dewis cyntaf o ysgol uwchradd

Rhoi'r byd yn ei le yn Nhrebiwt ond mae un pwnc yn hawlio'r sylw.

Cafodd llai na hanner plant yr ardal hon gynnig lle yn yr ysgol uwchradd oedd yn ddewis cyntaf iddyn nhw ym mis Medi.

Rhyw 88% oedd y ganran cyfatebol ar gyfer y ddinas gyfan.

Mae'r rhieni yma ymhlith y rhai sydd wedi eu siomi.

"Where's the catchment for Butetown or Grangetown?

"That is what I want to know.

"That kid is from this area, where is to go for future?"

"I've got my three children going to three different schools which is difficult for me as a single parent and I work as well."

Pan yn dewis ysgol uwchradd yng Nghaerdydd mae rhieni yn cael eu hannog i nodi pump ysgol yn ôl blaenoriaeth.

Mae plant yn cael lle yn un o'r dair ysgol gyntaf maen nhw'n nodi.

Dim ond 1.3% fethodd eleni ond mae'n stori wahanol yn Nhrebiwt.

O'r rhai wnaeth gais, methodd 20% a chael lle yn eu tri dewis cyntaf.

Mae ymgyrchwyr dros addysg yn lleol yn anfodlon.

"Mae'r cyngor wedi gwybod ers dros ddegawd a mwy am y niferoedd a bod y cyfnod o 2008 i 2016 wedi bod yn gyfnod o dwf felly does dim esgus yn yr ystyr 'na.

"Y cyd-destun yn ehangach yw bod chi'n son am ardal lle does 'na ddim yr un ysgol uwchradd ar gyfer y lle.

"Ers degawdau mae rhieni wedi danfon eu plant i wahanol cyfeiriadau.

"Mae hefyd yn ardal y Prif Weinidog newydd sy wedi bod yn Aelod Seneddol i'r ardal ers blynyddoedd.

"'Sdim syndod bod pobl yn gweld e'n broblem sensitif.

"Mae pobl yn gyndyn i drafod ond mae eisiau mynd i'r afael.

"Dim ond trwy daflu goleuni ar y pethau yma y mae pethau'n newid."

Mae cynghorwyr lleol yn gweithio gyda'r cabinet i fynd i'r afael â'r hyn maen nhw'n ei alw'n sefyllfa annerbyniol.

Roedd cynnydd yng nghyfradd y genedigaethau rhwng 2008 a 2016.

Dyma, meddai Cyngor Caerdydd, sydd i gyfrif am y pwysau ar ysgolion.

Maent wedi mynd i'r afael â hynny drwy gynyddu maint deg o ysgolion naill ai'n barhaol neu dros dro.

Maen nhw hefyd yn dweud bod yna lefydd ar gael mewn ysgolion a bod nhw'n gweithio gyda chymunedau ar draws y ddinas i helpu rhieni gyda phroses dewis ysgol uwchradd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.