Newyddion S4C

Ffarwel i Min-y-Nant: Diwedd cyfnod i siop boblogaidd yng Nghaernarfon

17/04/2024
SPAR Min-y-Nant

Mae’n ddiwedd cyfnod i un o siopau mwyaf adnabyddus tref Caernarfon wrth i deulu roi’r gorau i redeg siop SPAR Min-y-Nant.

Fe fydd y teulu Jones tu ôl i'r cownter yn eu siop am y tro olaf dydd Iau.

Mi fyddan nhw'n trosglwyddo'r awenau i reolwr newydd ar ôl bod wrthi ers dros 33 o flynyddoedd.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y teulu eu bod yn "anrhydedd ac yn fraint" i wasanaethu yn y gymuned.

"Gyda chalon drom fel teulu ysgrifennwn y neges hon atoch. Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint eich gwasanaethu ar hyd y blynyddoedd hyn, nid ydym erioed wedi meddwl byddai’r diwrnod hwn yn dod. 

"Hoffem ddiolch i’n holl gwsmeriaid ffyddlon am eich cefnogaeth dros yr holl flynyddoedd hynny yn enwedig pobl y stad, byddwch yn ein calonnau am byth.

"Nid ydym wedi eich ystyried fel cwsmeriaid, rydych chi bob amser 'di bod yn ffrindiau.

"Gwnaethoch dod i’r gwaith yn bleser ac bydd y chwerthin a gawson a’r atgofion sydd gennym yn aros gyda ni am byth. 

"Does unman yn y byd gyda chymaint o gymeriadau mewn un filltir sgwâr. Yn onest gallem ysgrifennu llyfr."

Fe fydd y staff yn parhau i weithio yn y siop o dan y rheolwr newydd. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.