Newyddion S4C

Plentyn bach wedi boddi ar stad wledig ei deulu, medd cwest

ITV Cymru 16/04/2024
Manor Maesycrugiau

Fe wnaeth cwest glywed bod bachgen 18 mis oed wedi syrthio i bwll a boddi ar ôl crwydro allan o’i gartref teuluol yng ngorllewin Cymru.

Roedd Finley Howell Sanders, o Glydach yn Abertawe, yn aros ym Manor Maesycrugiau ger Pencader yn Sir Gaerfyrddin gyda'i deulu, gan gynnwys ei fam a'i hen nain, pan ddigwyddodd y drasiedi.

Am 22:27 nos Fercher, Mai 26, 2021, fe wnaeth mam Finley, Alexandria, alw’r heddlu i adrodd bod ei mab ar goll ac nad oedd modd dod o hyd iddo yn unman ar yr eiddo. Yna bu archwiliad o’r tŷ a’r tir i ddilyn. 

Fe wnaeth y cwest a gafodd ei gynnal yn Neuadd y Dref Llanelli fore Mawrth, glywed bod hen-ewythr Finley wedi dod o hyd iddo yn y dŵr ac wedi ceisio gwneud CPR arno. 

Cafodd Finley ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, ond fe gafodd ei rieni wybod ei fod wedi marw am 1:01 y bore canlynol.

'Damwain'

Yn y cwest, dywedodd swyddog crwner Heddlu Dyfed-Powys, Hayley Rogers, fod lluniau cylch cyfyng o’r eiddo yn dangos Finley yn crwydro allan o’r tŷ trwy set o ddrysau Ffrengig, a bod dryswch yn ddiweddarach gan fod ei fam a’i hen-nain yn meddwl ei fod gyda'r person arall.

Ni wnaeth Finley ddychwelyd i'r tŷ ar ôl mynd allan i'r ardd.

Dywedodd uwch swyddog CID o Heddlu Dyfed-Powys fod y farwolaeth wedi’i thrin o’r cychwyn fel un “sydyn ac anesboniadwy” ac “nad oes dim o fewn y wybodaeth na’r dystiolaeth oedd wedi cael eu casglu yn awgrymu" bod unrhyw un arall wedi chwarae rhan yn ei farwolaeth.

Yn dilyn y farwolaeth, roedd post mortem wedi cael ei gynnal yn Ysbyty St Michael’s ym Mryste, a ddaeth i’r casgliad mai boddi oedd achos marwolaeth Finley.

Wrth gloi’r cwest, dywedodd uwch grwner dros dro Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, Paul Bennett: “Does dim byd yn fwy trasig na marwolaeth plentyn ifanc. Ym mhob ystyr, damwain drasig oedd hon.

"Allwch chi fyth disgwyl i rieni fod wrth ochr eu plant yn gyson. Does dim modd awgrymu yn yr achos hwn bod y canlyniad wedi codi oherwydd unrhyw fethiannau."

Daeth Mr Bennett i'r casgliad bod Finley wedi marw o ganlyniad i foddi ac mai damwain oedd ei farwolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.