Newyddion S4C

Opera Cenedlaethol Cymru yn canslo perfformiadau oherwydd 'heriau ariannol cynyddol'

16/04/2024
WNO

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi canslo perfformiadau yn Llandudno a Chaerdydd oherwydd "heriau ariannol cynyddol."

Cyhoeddodd y cwmni ddydd Mawrth na fydd modd iddynt deithio i Venue Cymru, Llandudno ym mis Mai 2025 nac i'r Hippodrome ym Mryste ym mis Chwefror 2025 oherwydd "heriau economaidd... yn ogystal â gostyngiad sylweddol yng nghyllid cyhoeddus."

Yn ogystal maen nhw wedi gohirio un perfformiad yng Nghaerdydd ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.

Fe ddaw'r penderfyniad oherwydd "heriau ariannol cynyddol" meddai Opera Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol dros dro y cwmni bod y penderfyniad yn un "anodd... nid oes modd ei osgoi."

Mewn datganiad dywedodd Christopher Barron: "Rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd o gyflwyno newidiadau i’n Tymor ar gyfer 2024/2025, a gwyddwn y bydd hynny’n siom fawr i’n cynulleidfaoedd ym Mryste a Llandudno.

"Mae ein sefyllfa ariannol newydd yn golygu ein bod yn wynebu’r her o gydbwyso cyllideb lai gan hefyd gynnal safonau artistig er mwyn darparu rhaglen gyffrous o berfformiadau a gweithgareddau ymgysylltu.

"Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau anodd, ond nid oes modd osgoi hynny dan yr amgylchiadau. Mae’r penderfyniadau wedi cael eu hystyried yn ofalus ac wedi cael eu trafod gyda’n lleoliadau a’r Cynghorau Celfyddydol."

Ychwanegodd y cwmni eu bod yn cynnig ad-daliad i'r rhai sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer y perfformiadau yn Llandudno a Bryste y flwyddyn nesaf.

'Cefnu ar ogledd Cymru'

Mae'r arweinydd Trystan Lewis, sydd hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud ei fod wedi "ofni" penderfyniad i beidio cynnal perfformiadau ar lwyfan Venue Cymru yn Llandudno.

"Mae’r rhelyw o’r Cymry wedi troi cefn ar gerddoriaeth glasurol, mwya’r gresyn. Dwi ‘di dadlau erioed mai culni sydd i gyfrif am fynnu un math o gerddoriaeth, mi fedr cenedl wâr werthfawrogi gwerin, pop, jazz yn ogystal â cherddoriaeth glasurol.

"Ar ddyddiau fel hyn mae gen i gywilydd o’n cenedl ni, ac yn edrych i gyfeiriad yr Almaen, y Weriniaeth Siec, Hwngari a gwledydd gwâr eraill am ysbrydoliaeth, gwlad y gân? Go brin.

"Yr hyn rwyf wedi ofni ers tro byd, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn cefnu ar ogledd Cymru," meddai.

Llun: Opera Cenedlaethol Cymru 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.