Menyw 79 oed ag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad mewn maes parcio meddygfa
Mae swyddogion yr heddlu yn apelio am lygad dystion wedi i fenyw 79 oed ddioddef anafiadau all yn newid ei bywyd, yn dilyn gwrthdrawiad mewn maes parcio meddygfa yn Sir Fynwy.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y fenyw a cherbyd Vauxhall Corsa lliw du am tua 11.25 fore dydd Sadwrn ym maes parcio Meddygfa Gray Hill yng Nghil-y-coed.
Roedd swyddogion yr heddlu, yn ogystal â pharafeddygon y gwasanaeth ambiwlans yn bresennol.
Cafodd y fenyw ei chludo i’r ysbyty er mwyn derbyn triniaeth am ei hanafiadau.
Mae Heddlu Gwent bellach yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 11.00 a 11.25 ddydd Sadwrn, 13 Ebrill, ac sydd efo lluniau cylch cyfyng neu gynnwys dashcam i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400118919.
Llun: Google