Newyddion S4C

Cyfradd diweithdra wedi cynyddu'n fwy na'r disgwyl

18/04/2024
gwaith

Mae cyfradd diweithdra yn y DU wedi cynyddu’n fwy na’r disgwyl, yn ôl ffigyrau newydd. 

Ac mae’r nifer o bobl heb swydd hefyd wedi cynyddu i’r lefel uchaf ers bron i chwe mis, wedi i’r gyfradd diweithdra gynyddu i 4.2% yn y tri mis cyn mis Chwefror.

Mae’r gyfradd wedi cynyddu’n fwy na’r disgwyl, gyda’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn darogan cynnydd o hyd at 4% yn unig. 

Mae ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn nodi fod twf rheolaidd mewn cyflogau wedi gostwng unwaith eto – i 6% yn y tri mis hyd at fis Chwefror, o gymharu â 6.1% yn y tri mis blaenorol. 

Ond gan fod chwyddiant yn parhau i ostwng, yn ogystal ag ystyried prisiau defnyddwyr (Consumer Price Index), roedd cyflogau wedi cynyddu 2.1% mewn gwirionedd, sef y cynnydd mwyaf am bron i ddwy flynedd a hanner. 

Mae disgwyl i Fanc Lloegr gadw llygad barcud ar newidiadau i gyfraddau cyflog, wrth iddyn nhw geisio mynd i'r afael â chwyddiant.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.