Newyddion S4C

Menna Williams yn enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes

15/04/2024

Menna Williams yn enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes

Ar ei phen-blwydd yn 80 oed, cyhoeddodd Urdd Gobaith Cymru mai Menna Williams o Langernyw sydd wedi ennill Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled, Eisteddfod yr Urdd 2024.
 
Yn cael ei hadnabod yn lleol fel 'Anti Menna', mae hi wedi bod yn hyfforddi cenedlaethau o blant a phobl ifanc i ganu, cystadlu a gosod Cerdd Dant ers dros 50 mlynedd, gyda'i brwdfrydedd a’i hymrwymiad i ieuenctid ardal Bro Cernyw cyn gryfed ac erioed.  
 
Cafodd wybod mai hi yw enillydd y tlws eleni gan y cyflwynydd Heledd Cynwal ddydd Llun, wrth iddi ymweld â Menna Williams yng nghanol neuadd o blant Ysgol Bro Cernyw. 
Roedd Mrs Williams yn meddwl bod y disgyblion yno i ddymuno pen-blwydd hapus iddi yn unig. 
 
Yn wreiddiol o'r Groes, Dinbych, roedd Menna Williams yn aelod o Aelwyd y Groes o dan arweiniad John a Ceridwen Hughes eu hunain pan yn blentyn, a derbyniodd hyfforddiant canu a chystadlu pellach gan Ceridwen Hughes.
 
Dywedodd Owain John, sydd wedi’i hyfforddi gan Menna ers dros 20 mlynedd: “Mae Anti Menna wedi ymroi gymaint i ieuenctid Bro Cernyw dros y degawdau. 'Dw i’n ddiolchgar iawn amdani ac mae fy nyled yn fawr iddi.”
 
Bydd Menna Williams yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig ar Faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn. 
 
Mae Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled yn cael ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.  
 
Mae'n cael ei gyflwyno yn flynyddol yn ystod wythnos prifwyl yr Urdd am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.