Newyddion S4C

Mam a gollodd ei mab mewn gwrthdrawiad yn cefnogi cyfyngiadau ar yrwyr newydd

ITV Cymru 15/04/2024
Harvey Owen

Mae mam i ddyn ifanc a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd yn cefnogi rheolau llymach ar gyfer gyrwyr newydd sydd wedi cael eu cynnig gan gymdeithas foduro'r AA.

Cafodd mab Crystal Owen, Harvey, 17 oed, ei ddarganfod yn fawr gyda thri dyn ifanc arall mewn car oedd wedi troi drosodd ac oedd yn rhannol dan ddŵr fis Tachwedd y llynedd.

Roedd o wedi bod i ffwrdd ar drip gwersylla gyda thri o'i ffrindiau. 

Roedd y pedwar oll wedi bod yn teithio mewn car ar hyd fordd yr A4085 pan adawodd y ffordd.

Anafiadau traffig ffyrdd yw prif achos marwolaethau plant ac oedolion ifanc. 

Mae bron i 5,000 o bobl yn y DU yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn damweiniau sy'n cynnwys o leiaf un gyrrwr ifanc bob blwyddyn.

Mae un o bob pump gyrrwr ifanc yn cael damwain o fewn blwyddyn i basio eu prawf, meddai’r AA.

"Dwi'n meddwl nad oedd Harvey, fel llawer o bobl, yn deall y risgiau," meddai Ms Owen. 

Mae hi’n cefnogi galwadau i gyfyngu ar yr hyn gall gyrwyr newydd ei wneud ar y ffordd, a dywedodd y byddai’n lleihau “marwolaethau diangen”.

Argymhellion

Dywedodd yr AA y dylai modurwyr gael eu hatal rhag cario teithwyr o oedran tebyg am o leiaf chwe mis ar ôl pasio eu prawf.

Galwodd y corff hefyd am i yrwyr newydd gadw cofnod yn dangos eu bod wedi gyrru ar bob math o ffyrdd.

Byddai'r cyfyngiadau hyn yn rhan o drwyddedau gyrru graddedig, sy'n gosod cyfyngiadau ar yrwyr am gyfnod penodol ar ôl iddyn nhw basio eu prawf.

Mae yna system debyg mewn sawl gwlad gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia a Sweden.

Dywedodd Ms Owen: “Mae yna nifer o wledydd lle mae hyn wedi cael ei weithredu yn ystod y 30 mlynedd diwethaf ac mae wedi profi i leihau marwolaethau ym mhob un o’r gwledydd hyn – rhwng 20 a 40% yn llai o farwolaethau, sy’n swm enfawr o fywydau fyddai wedi gallu cael eu hachub.

“Dw i’n meddwl pe bai’n unrhyw ffordd arall o bobl ifanc yn cael eu lladd, byddai’r llywodraeth wedi gwneud rhywbeth ynghynt.”

Dywedodd Llywydd yr AA, Edmund King: “Un o’r materion mawr y mae angen mynd i’r afael ag ef yw marwolaethau diangen gyrwyr ifanc, eu teithwyr ac eraill sy’n cael eu dal yn y damweiniau hyn. 

“Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli, tan ei bod yn rhy hwyr, mai anafiadau traffig ffyrdd yw prif achos marwolaeth plant ac oedolion ifanc.”

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU: “Tra bod gan y DU rai o’r ffyrdd mwyaf diogel yn y byd, mae unrhyw farwolaeth yn drasiedi a dyna pam ry’n ni’n parhau i weithio’n ddiflino i wella diogelwch ffyrdd i bawb.

“Mae'r ymgyrch ‘Our Think!’ wedi'i dargedu'n benodol at yrwyr gwrywaidd ifanc, ac ry’n ni wedi comisiynu ymchwil, sydd wedi’i lunio i helpu dysgwyr a gyrwyr sydd newydd gymhwyso i wella eu sgiliau a'u diogelwch.”

Llun teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.