Newyddion S4C

Heddwas i wynebu cyhuddiad o ymosod ar lanc tu allan i glwb nos ym Mangor

15/04/2024
Cube Bangor

Fe fydd swyddog o Heddlu Gogledd Cymru yn ymddangos yn y llys yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i’r defnydd o rym ar berson ifanc yn ei arddegau.

Mae disgwyl i PC Ellis Thomas, 24 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ar ddydd Mercher 17 Ebrill.

Fe fydd yn wynebu cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn erbyn bachgen 17 oed. 

Mae’n ymwneud â digwyddiad ar 29 Ionawr 2023 y tu allan i Glwb Nos Cube ym Mangor.

Dechreuodd ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ym mis Chwefror 2023 ar ôl i'r mater gael ei gyfeirio atynt gan Heddlu Gogledd Cymru. 

Ar ddiwedd yr ymchwiliad dros gyfnod o bum mis, anfonwyd ffeil o dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron, sydd wedi awdurdodi'r cyhuddiad yn erbyn y swyddog.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud wrth Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu bod y swyddog yn parhau ar ddyletswyddau cyfyngedig.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.