
Tad o Fae Penrhyn yn rhedeg Marathon Llundain ar ôl triniaeth ar gyfer lewcemia
Bydd tad o Sir Conwy yn rhedeg Marathon Llundain eleni ar ôl credu saith mlynedd yn ôl nad oedd ganddo yn hir i fyw.
Doedd gan Stephen Hughes, 47, o Fae Penrhyn “ddim cryfder o gwbl” ar ôl derbyn triniaeth cemotherapi ar gyfer lewcemia ond mae bellach yn ddigon ffit i gwblhau'r ras 26 milltir.
Cafodd ddiagnosis o lewcemia promyelocytig acíwt (APL) – math prin o ganser y gwaed – ym mis Ebrill 2017.
Dywedodd Mr Hughes ei fod yn cofio diwrnod ei ddiagnosis “fel y digwyddodd ddoe” wrth iddo droi ei fyd “wyneb i waered”.
Roedd wedi meddwl yn syth am ddau blentyn, meddai – Elan, 17, a Harri, 14.
“Ro’n i mor argyhoeddedig fy mod i jyst yn mynd i bicio yno a chael prawf i gadarnhau, ‘ie, mae popeth yn iawn’, na wnes i ffarwelio’n iawn â’r plant,” meddai.
“Ro’n i’n meddwl nad oeddwn i byth yn mynd i’w gweld nhw eto.”

Yn ddiweddarach fe wnaeth Mr Hughes ddarganfod nad oedd ei feddyg yn meddwl y byddai’n “gwneud hi drwy’r penwythnos”.
Ond yn ystod y driniaeth, fe wnaeth addewid iddo’i hun y byddai’n anelu at wella ei ffitrwydd a threulio mwy o amser gyda’i blant.
Fe arhosodd Mr Hughes yn yr ysbyty am chwe wythnos, gan dderbyn sawl rownd o gemotherapi a thrallwysiad gwaed.
Cafodd wybod ym mis Gorffennaf 2017 ei fod yn gwella ac yn cael parhau ei driniaeth gartref.
Roedd ei driniaethau mor ddwys fel mai prin y gallai gerdded pum munud i fyny ei lwybr lleol heb deimlo’n flinedig, ond gyda’i awydd i adennill ymdeimlad o “normalrwydd” eto, fe ddechreuodd adeiladu ei gryfder yn raddol.

'Eiliad o wallgofrwydd'
Mae Mr Hughes yn parhau i gael archwiliadau rheolaidd, ond dywedodd fod bywyd wedi dychwelyd i normal eto.
Ac mewn “eiliad o wallgofrwydd”, fe gofrestrodd i redeg Marathon Llundain er mwyn codi arian ar gyfer yr elusen Leukemia UK.
Er iddo ddweud ei fod “miliwn o filltiroedd i ffwrdd” o ystyried ei hun fel rhedwr, mae’n “rhoi cynnig arni” ac yn teimlo’n fwy ffit ac yn gryfach nag erioed.
“Pan dwi’n edrych yn ôl, mae yna lwybr sy’n rhedeg drws nesaf i’n tŷ ni, ac es i am dro i geisio gwylio fy mab yn chwarae pêl-droed – yn llythrennol roedd yn daith gerdded pum munud – ond erbyn i mi gyrraedd yno, allwn i ddim aros, ro’n i wedi blino cymaint,” meddai.
“Roedd yn rhaid i mi droi rownd a dod yn ôl eto ac fe wnes i gysgu am oriau.
“Felly i fynd o’r profiad hwnnw i nawr hyd yn oed ystyried rhedeg marathon, ‘dw i’n eitha’ balch ohonof fy hun.”
Ei nod yw codi £2,000 i Leukemia UK.
“Os yw’n helpu hyd yn oed un person yn yr un sefyllfa, os yw’n eu helpu gyda’r driniaeth a’r ymchwil y mae Leukemia UK yn ei wneud, byddai’n werth chweil.”