Newyddion S4C

Clwb pêl-droed yn rhybuddio cefnogwyr i beidio defnyddio 'iaith gwrth-Gymreig' yn Wrecsam

12/04/2024
Cae Ras Wrecsam

Mae Clwb Pêl-droed Forest Green Rovers wedi rhybuddio cefnogwyr i beidio â defnyddio "iaith gwrth-Gymreig" pan fydd eu tîm yn chwarae yn erbyn Wrecsam ddydd Sadwrn.

Bydd y tîm o Sir Gaerloyw yn teithio i’r Cae Ras i chwarae yn erbyn Wrecsam mewn gêm yn Ail Adran Lloegr brynhawn Sadwrn.

Wrth rannu neges gyda’u cefnogwyr ar gyfrwng cymdeithasol X, fe wnaeth y clwb rybuddio y byddai’r heddlu yn "gweithredu’ pe bai "iaith gwrth-Gymreig" yn cael ei ddefnyddio.

Yn y neges, dywedodd y clwb: “Rydym yn atgoffa cefnogwyr na fydd iaith gwrth-Gymreig yn cael ei goddef, cyn ein taith i Wrecsam.

“Mi fydd yr heddlu yn gweithredu os oes unrhyw iaith o’r fath yn cael ei hadrodd.”

Daw’r rhybudd wedi i gefnogwr Wrecsam gael ei wahardd rhag mynychu gemau pêl-droed am dair blynedd fis yma, ar ôl pledio’n euog i aflonyddu gwaethyged hiliol.

Roedd Daniel Thomas Monk, 21 oed, o Frychdyn Newydd, wedi defnyddio iaith "gwrth-Seisnig" tuag at gefnogwyr Tranmere Rovers mewn gêm ar 16 Mawrth.

Fe wnaeth Mr Monk ddweud ei fod “wir yn ymddiheuro”, ar ôl iddo dderbyn gwaharddiad pêl-droed tair blynedd a dirwy o £768.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.