Newyddion S4C

Pàs digidol brechiad Covid ar gael yng Nghymru ar gyfer teithiau brys

25/06/2021
Brechlyn i amddiffyn rhag Covid-19.
Brechlyn i amddiffyn rhag Covid-19.

Mae pàs digidol i ddangos statws brechu unigolion ar gael yng Nghymru o ddydd Gwener.

Fe fydd y pàs yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer teithiau rhyngwladol brys.

Daw hyn wedi i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gadarnhau na fyddai'r wefan ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau fod gwaith ar y gweill i gyfuno systemau ap GIG Lloegr a GIG Cymru i alluogi i bobl yng Nghymru ei ddefnyddio. 

Mae tystysgrifau brechu wedi bod ar gael ers mis Mai ar gyfer pobl sydd angen teithio ar frys y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig.

Bydd bellach mynediad at bas Covid-19 ar gael ar ffôn, llechen neu liniadur drwy wefan Pàs COVID y GIG.

Mae statws brechu ar gael os ydych wedi cael brechlyn Covid-19, wedi cael eich brechu yng Nghymru ac yn 16 oed neu'n hyn.

Bydd dal angen gwirio'r gofynion mynediad ar gyfer y wlad mae pobl yn bwriadu teithio iddi, gan gynnwys nifer y brechiadau sydd eu hangen, a rheolau profi ac ynysu.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Rwy’n falch y gall pobl yng Nghymru gael eu statws brechu nawr drwy Bàs COVID y GIG os oes angen iddynt deithio ar frys a’u bod wedi cael dos llawn o’r brechlyn.

“Mae’n bwysig cofio nad yw cyngor Llywodraeth Cymru ar deithio wedi newid, ac mai dim ond os yw’n hollol hanfodol y dylai pobl ystyried teithio’n rhyngwladol".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.